Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Gweithdrefnau'r Llys



Gweithdrefnau’r Llys

Mae yna nifer o resymau pam y gallet ti fynychu Llys y Gyfraith:

  • Fel y person sy’n cael ei gyhuddo am drosedd, pan fyddi di’n sefyll treial
  • Fel tyst mewn achos llys
  • Fel rheithiwr
  • Fel aelod o’r cyhoedd, pan fyddi di yn oriel y cyhoedd yn dilyn y treial

Mae’r modd o weithredu llysoedd yn ffurfiol iawn a gall yr amgylchedd fod yn ddychrynllyd. Mae yna wahanol fathau o lysoedd:

  • Llysoedd Ynadon – bydd achosion cyfraith droseddol, cyfraith deuluol, a chyfraith trwyddedu yn mynd gerbron y llysoedd yma, yn ogystal â mathau eraill o achosion llai cyffredin
  • Llysoedd Ieuenctid – mae’r rhain yn rhan o'r llysoedd ynadon. Mae yna fwy o fanylion ar y tudalen Llys Ieuenctid
  • Llysoedd y Goron – Os bydd achos troseddol yn ddifrifol, ar ôl iddo fynd gerbron llys Ynadon i gychwyn, fe fydd yn cael ei anfon gerbron llys y Goron
  • Llysoedd Sirol – bydd achosion cyfraith sifil yn mynd gerbron y rhain

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50