Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd » Gamblo
Yn yr Adran Hon
Dyma’r gyfraith ar gamblo a phobl ifanc:
Mae hi’n anghyfreithlon i unrhyw un dan 16 oed gamblo
Gall pobl 16 oed gamblo ar rai peiriannau ffrwythau os yw'r symiau sy'n cael eu hennill yn isel, chwarae'r Lotto a phrynu cardiau crafu.
Ni all pobl ifanc dan 18 oed fynd i mewn i siop neu glwb betio i gamblo. Ni allan nhw chwarae bingo am wobrau arian, ond gallan nhw ei chwarae am wobrau nad ydyn nhw’n arian mewn lleoedd fel ffeiriau pleser ac arcedau difyrion.
Mae’r rheolau yma’n berthnasol i gamblo ar-lein, gamblo ar deledu rhyngweithiol a gamblo ar ffôn symudol, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eu bod nhw ar gael yn fwy rhwydd na ffurfiau eraill ar gamblo.
Weithiau mae’n hawdd mynd yn gaeth i gamblo, ac os ydych chi’n benthyca arian, yn colli’r ysgol, y coleg neu’r gwaith i gamblo, neu’n gwario’ch holl arian neu ran helaeth ohono ar gamblo, yna mae’n bosib eich bod chi'n colli rheolaeth arno. Mae cyngor a gwybodaeth ar gamblo ar gael o’r canlynol: