Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Y Gyfraith a'r Heddlu
Yn yr Adran Hon
 Y Llywodraeth sy'n llunio cyfreithiau, sef rheolau ein gwlad a’n cymunedau. Maent yn helpu i gadw ein cymunedau yn fwy diogel.
Er na fyddai disgwyl i chi wybod popeth am bob cyfraith, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r cyfreithiau sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Bydd y Senedd yn pasio rhwng 50 a 60 o gyfreithiau newydd bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am benderfynu sut i roi cyfreithiau sy’n effeithio ar addysg, iechyd, diwydiant, amaethyddiaeth, trafnidiaeth, hyfforddiant a’r amgylchedd ar waith yng Nghymru.
Yr heddlu yw’r bobl/y sefydliad sy’n gorfodi’r gyfraith ac sy’n helpu i sicrhau bod y rheiny sy’n torri’r gyfraith yn cael eu cosbi. Byddan nhw’n cael y rhan fwyaf o’u gwybodaeth oddi wrth y cyhoedd, ac heb yr help yma fe fyddai eu gwaith yn anodd iawn.