Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyfrifoldebau
Yn yr Adran Hon
Dy Hawliau
Mae hawliau dynol yn warantau cyffredinol sy’n gwarchod unigolion a grwpiau rhag gweithredoedd sy’n effeithio ar eu rhyddid a’u hurddas dynol. Mae gan bawb hawliau a warchodir yn ôl y ddeddf ac ni ellir eu cymryd oddi arnynt.
Fel plant a phobl ifanc mae hawliau ychwanegol hefyd i warchod ti ac i sicrhau dy fod di'n cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.
Datblygwyd yr hawliau ychwanegol hyn gan y Cenhedloedd Unedig a rhoddir manylion amdanynt yn yr hyn a elwir yn CCUHP - Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae’r Confensiwn yn cynnwys 54 o "erthyglau" neu brif feysydd y mae’r llywodraeth yn gyfrifol amdanynt sy’n sicrhau dy fod di'n mwynhau hawliau i addysg, gwybodaeth, yn rhan o wneud penderfyniadau, gofal iechyd a safon byw dda, gweithgareddau hamdden, defnyddio iaith ac arferion dy deulu, triniaeth deg yn y system cyfiawnder troseddol a dy fod di'n ymwybodol o dy holl hawliau.
Yn 2004 mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r CCUHP fel sail i’w holl bolisïau ar gyfer plant a phobl ifanc, gan ategu dy hawliau ym mhob agwedd o’i waith. Mae CLIC yn brosiect pwysig sy’n helpu i gyflenwi Erthyglau 13 ac 17 y CCUHP sy’n ymwneud â dy hawl i wybodaeth a'r defnydd o gyfryngau.