Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd » Gwefr Yrru
Yn yr Adran Hon
Gwefr yrru (neu ladrata ceir) yw’r drosedd pan fydd rhywun yn cymryd cerbyd heb ganiatâd y perchennog. Mae’r gweithgaredd yma’n hynod beryglus, ac os byddwch chi'n cael eich dal fe fydd yn rhaid ichi dalu dirwy neu fynd i’r carchar. Fe fydd gennych chi gofnod troseddol, ac ar ben hynny fe fyddwch chi’n colli parch pobl o’ch amgylch oherwydd eich bod chi nid yn unig wedi rhoi’ch hun mewn sefyllfa lle gallech chi gael eich anafu’n ddifrifol, ond rydych chi hefyd wedi peryglu defnyddwyr eraill y ffordd ac unrhyw deithwyr sydd gennych chi yn y car. Mae’r teithwyr yma hefyd yn troseddu trwy dderbyn reid mewn car sydd wedi’i ddwyn.
Nid oes unrhyw wefr mewn gwefr yrru; os cewch chi eich dal fe fydd gennych chi gofnod troseddol ac fe allech chi ladd eich hun neu ladd rhywun arall, a byddai gwybod eich bod wedi taro rhywun i lawr a’i anafu neu ei ladd yn beth anodd iawn i fyw gydag ef.