Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael Swydd » Pa Oed Alla' I Ddechrau Gweithio?
Yn yr Adran Hon
Pa oed alla' i ddechrau gweithio?
Mae yn erbyn y gyfraith i ti weithio'n llawn amser nes byddi di wedi pasio oed ysgol orfodol. Mae person yn stopio bod yn oedran ysgol ar ddyddiad swyddogol gadael yr ysgol, sef dydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn ysgol pan fyddi di'n cael dy ben-blwydd yn 16 oed.
Fodd bynnag, mae llawer o bobl ifanc sydd yn yr ysgol yn gweithio yn eu hamser hamdden i ennill ychydig o arian. Y swyddi mwyaf poblogaidd ydy rownd bapur neu weithio rhan amser mewn siop.
- Mae yna reolau llym yn ymwneud â'r oriau gallet ti weithio, y math o waith ti'n cael gwneud a'r oedran ieuengaf cei di weithio
- Yn anffodus, mae yna ormod o achosion ble fydd pobl ifanc o oedran ysgol yn cael eu cyflogi'n anghyfreithlon neu'u hecsploetio
- Mae rhai pobl ifanc yn gweithio am gyflog isel iawn neu am oriau hir iawn. Gall hyn yn ei dro effeithio ar eu hastudiaethau, eu bywyd gartref, eu hiechyd a'u diogelwch
Dechrau gweithio – beth mae'r gyfraith yn ei ddweud?
Er mwyn arbed pobl ifanc rhag cael eu cam-drin a'u hecsploetio yn y gwaith, mae'r gyfraith yn rheoleiddio'r amodau gweithio sylfaenol ar gyfer pobl ifanc o oedran ysgol.
Y brif ddeddf gyfreithiol yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933, sydd yn effeithio ar bob unigolyn o oedran ysgol. Mae'r Ddeddf yn rhoi grym i'r awdurdodau lleol lunio is-ddeddfau a fydd yn cyfyngu ymhellach yr oriau a'r amodau gwaith a'r math o waith mae pobl ifanc yn cael gwneud. Mae'r is-ddeddfau yma yn amrywio ychydig o ardal i ardal, yn arbennig o ran y mathau o swyddi y mae gan bobl ifanc hawl i'w gwneud.
Fel rheol, ti ddim yn cael gweithio os wyt ti o dan 14 oed, ond efallai gall pobl ifanc 13 oed wneud gwaith sydd wedi'i gymeradwyo gan is-ddeddfau'r awdurdodau lleol. Dim ond 'gwaith ysgafn achlysurol' gei di ei wneud.
Mae hyn yn cynnwys:
- Gwaith amaethyddol
- Dosbarthu papurau newydd
- Gweithio mewn siop, caffi, salon, swyddfa
- Gwaith domestig mewn gwestai
- Gweithio mewn stablau marchogaeth
- Golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl
Nid yw pobl ifanc rhwng 14 oed ac oedran gadael ysgol yn cael gweithio yn y swyddi canlynol:
- Ceginau Masnachol
- Sinema, ffair, arcêd, theatr, tafarn, disgo a chlwb nos
- Cigydd a lladd-dy
- Ffatrïoedd, pyllau glo, adeiladu, gweithgynhyrchu, chwareli
- Casglu arian o ddrws i ddrws
- Gwerthu neu ddosbarthu llaeth, alcohol, tanwydd, olew
- Casglu sbwriel
- Gwaith sy'n cynnwys gweld deunydd sy'n addas i oedolion yn unig
- Gweithio o uchder dros 3m e.e. glanhau ffenestri
- Gofal personol e.e. cartrefi preswyl os nad oes oedolyn yn goruchwilio
- Trin llwythi peryglus, glanhau peiriannau, gwaith lle gall ddod i gysylltiad â chemegau
- Dim ond rhai dros 14 oed sy'n cael masnachu ar y stryd (gweithio ar stondinau marchnad), cyn belled mai eu rhieni sy'n eu cyflogi ac mae ganddynt drwydded gan yr awdurdod lleol
- Unrhyw waith yn ystod y nos
Nid wyt ti'n cael gweithio:
- Cyn 7yb ac ar ôl 7yh
- Yn ystod oriau ysgol
- Dros ddwy awr ar ddiwrnod ysgol neu mwy nag awr cyn i'r ysgol ddechrau
- Dros ddwy awr ar ddydd Sul
- Os wyt ti o dan 15 oed, chei di ddim gweithio am fwy na 5 awr ar ddydd Sadwrn neu unrhyw ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol
- Os wyt ti dros 15 oed, chei di ddim gweithio am fwy na 8 awr ar ddydd Sadwrn neu unrhyw ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol
Amodau sydd yn berthnasol i ti wrth weithio
- Mae'n rhaid i ti gael pythefnos o seibiant heb weithio yn ystod cyfnod yn y flwyddyn pan nad oes rhaid i ti fynd i'r ysgol
- Mae yna egwyl gorffwys statudol o awr i bobl ifanc sy'n gweithio am 4 awr neu fwy
- Mae pobl ifanc sy'n cael eu talu i gymryd rhan mewn chwaraeon, neu weithio fel model, yn dod dan ddarpariaeth trwyddedu arbennig sydd ar hyn o bryd yn berthnasol i bobl ifanc ym myd adloniant
- Mae pob is-ddeddf yn dweud bod rhaid i gyflogwr sydd eisiau cyflogi pobl ifanc o oedran ysgol gofrestru gyda'r awdurdod addysg leol a gwneud cais am drwydded gweithio i'r person ifanc
- Os wyt ti o dan 16 oed nid oes rhaid i ti dalu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol ac nid oes rhaid talu treth incwm nes i ti ennill dros £8,105 y flwyddyn.
- Pan fyddi di yn pasio oedran ysgol orfodol fe gei di weithio'n llawn amser