Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael Swydd » Ble i Chwilio am Swydd
Yn yr Adran Hon
Ble i Chwilio am Swydd
Canolfan Gwaith / Canolfan Byd Gwaith
- Gall unrhyw un alw heibio i'w Canolfan Gwaith lleol i edrych ar y swyddi gwag sy'n cael eu hysbysebu
- Mae'n rhaid i ti gofrestru yn dy Ganolfan Gwaith lleol os wyt ti am wneud cais am fudd-daliadau (fel rheol, nid oes hawl gan bobl sy'n iau na 18 mlwydd oed i wneud cais am fudd-daliadau)
- Gall edrych ar swyddi gwag ar-lein yn: Direct Gov
Asiantaethau Recriwtio
- Enwau eraill arnyn nhw yw Asiantaethau Cyflogaeth neu Asiantaethau Gweithwyr Dros Dro, ac mae cwmnïau'n cysylltu â nhw er mwyn hysbysebu eu swyddi gwag ac er mwyn i'r asiantaethau chwilio am bobl addas i lenwi'r swyddi hynny ar eu rhan
- Yn aml, bydd yr asiantaethau hyn yn arbenigo mewn recriwtio i fathau arbennig o waith e.e. gwaith swyddfa, adeiladu, gwaith ffatri, manwerthu a dosbarthu, gweithio fel nani neu au pair, amaethyddiaeth a gwaith tymhorol
- Yn aml, cyfleoedd dros dro yw'r swyddi gwag, ond weithiau gallan nhw arwain at swyddi parhaol
- Gallet ti gofrestru ag asiantaeth, gan roi iddyn nhw'r holl fanylion perthnasol am dy sgiliau, profiad a chymwysterau, a gallan nhw roi ti mewn cysylltiad â chwmnïau os bydd cyfleoedd gwag addas yn codi
- Edrycha yn y Yellow Pages neu cer i www.yell.com i ddod o hyd i asiantaethau yn dy ardal di
- Mae llawer o swyddi ar y rhyngrwyd yn cael eu hysbysebu gan asiantaethau recriwtio (gweler isod)
Y Rhyngrwyd
- Mae chwilio am swyddi gwag ar-lein yn gyffredin iawn
- Mae llawer o gwmnïau bellach yn hysbysebu swyddi gwag ar eu gwefannau eu hunain - ond nid yw hi bob amser yn amlwg bod yna swyddi gwag ar y gwefannau hyn, felly mae'n werth mynd i edrych yn yr adrannau Personél, Gwybodaeth Gorfforaethol/Cwmni neu'r adran Amdanom Ni
- Bydd gwefannau eraill yn cynnwys hysbysebion gydag asiantaethau recriwtio (gweler uchod)
- Am restr o wefannau recriwtio defnyddiol cer i Gyrfacymru.com
Gyrfa Cymru
- Mae Gyrfa Cymru'n cynnig gwasanaeth swyddi gwag i bobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed
- Gallan nhw helpu ti i ffitio dy hun i swydd wag addas yn dy ardal di
- Mae swyddi gwag yn cael eu harddangos yn eu Canolfannau Gyrfa a'u Siopau Gyrfa
- Dyma hefyd lle y dylet ti fynd gyntaf ar gyfer cyfleoedd hyfforddi gwag fel prentisiaethau
- Rhestrir cyfleoedd gwag hefyd ar www.gyrfacymru.com
Papurau Newydd
- Bydd llawer o gwmnïau'n defnyddio hysbysebion mewn papurau newydd pan fyddan nhw'n recriwtio
- Gall ddod o hyd i hysbysebion mewn papurau newydd cenedlaethol a lleol
- Mae gan y rhan fwyaf o bapurau newydd ddiwrnodau penodol ar gyfer hysbysebion recriwtio, ac mae gan rai diwrnodau penodol ar gyfer mathau penodol o swyddi
- Mae'n werth edrych ar wahanol bapurau newydd er mwyn cael syniad o'r math o hysbysebion maen nhw'n dueddol o'u cael - ydy nhw'n cynnwys hysbysebion fyddai o ddiddordeb i ti?
- Os nad wyt ti eisiau gwario arian - cer i dy lyfrgell leol, fel rheol mae ganddyn nhw ddewis o bapurau newydd i ti edrych arnynt am ddim
- Gallet hefyd geisio edrych ar wefannau papurau newydd
- Cofia bod y papurau newydd cenedlaethol e.e. The Times, The Guardian, The Daily Telegraph yn cynnwys hysbysebion am swyddi ledled y DU, a bod dy bapur newydd lleol fel rheol yn cynnwys hysbysebion am swyddi lleol e.e. South Wales Argus, South Wales Echo, Free Press, Daily Post a'r Western Mail sydd yn cynnwys hysbysebion am swyddi ledled Cymru
Cylchgronau
- Mae rhai cylchgronau'n cynnwys hysbysebion am swyddi
- Fel rheol, swyddi sy'n gysylltiedig â phwnc y cylchgrawn ydyn nhw e.e. Big Issue – swyddi cymunedol ac elusennol; Farmers Weekly - swyddi ym myd amaethyddiaeth; Horse and Hound – swyddi gyda cheffylau ac, yn rhyfedd ddigon, rhai swyddi ar gyfer Nanis; Nursery World a The Lady - swyddi ar gyfer Nanis a Nyrsys Meithrin; cylchgronau Teithio - swyddi ym myd twristiaeth; Young People Now - Gwaith Ieuenctid.
Ffenestri Siopau / Hysbysfyrddau
- Gan fod costau hysbysebu'n uchel, weithiau bydd busnesau'n gosod hysbysebion mewn ffenestri ac ar hysbysfyrddau
- Yn aml bydd siopau, archfarchnadoedd, tafarndai, siopau trin gwallt ac ati'n gwneud hyn. Felly cadwa dy lygaid ar agor
- Mae hefyd yn werth edrych am hysbysebion yn ffenestri'r siop bapur lleol
Ar lafar gwlad a galw ar hap
- Nid yw rhai swyddi fyth yn cael eu hysbysebu
- Siarada â phobl sy'n gweithio mewn swyddi sydd o ddiddordeb i ti a gofynna iddyn nhw roi gwybod i ti os oes unrhyw swyddi gwag yn codi
- Neu defnyddia dy ben blaen ac ysgrifenna lythyr gyda CV a'i yrru i'r lle hoffet ti weithio
- Neu cer yno mewn person a rhoi dy CV iddyn nhw