Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael Swydd » Cyfweliadau
Yn yr Adran Hon
Cyfweliadau
Mae cyfweliad yn gyfle i ddarpar gyflogwr gyfarfod gyda thi a darganfod sut berson wyt ti. Er bod ffurflen gais neu CV yn gallu dweud llawer amdanat ti, bydd cyfarfod ti yn penderfynu os wyt ti'n llwyddiannus neu beidio yn cael y swydd.
Mae cyfweliad hefyd yn rhoi cyfle i ti ddod i ddarganfod mwy am y swydd.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n nerfus wrth feddwl am gyfweliad ond gall paratoi helpu ti i ddod dros hyn.
Cyn
- Meddylia am y swydd rwyt ti wedi ymgeisio amdani - beth sy'n gwneud ti'n iawn ar ei chyfer?
- Sut fedri di gysylltu dy sgiliau, profiad a chymwysterau i'r swydd arbennig honno
- Ceisia ddysgu am y cwmni - darllena unrhyw wybodaeth y gallet ddod o hyd iddi am y cwmni ac, os oes ganddyn nhw wefan, edrycha arni
- Ceisia gael digonedd o gwsg y noson gynt - nid yw dylyfu gên mewn cyfweliad yn beth da!
- Os gefais di fanyleb gweithiwr gyda'r ffurflen gais, defnyddia hwnnw fel canllaw i feddwl beth maen nhw'n edrych amdano ynddot. Meddylia am gwestiynau y gallan nhw eu gofyn, a'r atebion fyddi di'n ei roi
- Darllena drwy dy gais a/neu CV cyn mynd i mewn i'r cyfweliad, a bydda'n barod i ateb cwestiynau am unrhyw beth sydd ynddyn nhw
- Paratoa gwestiynau i'w gofyn yn y cyfweliad, gan fod hyn yn dangos dy fod di wedi meddwl am y swydd, a'r hyn mae'n ei olygu
- Ystyried yr hyn fyddi di'n ei wisgo ymhell o flaen llaw, a chael popeth yn barod y diwrnod cynt
- Cynllunia'r siwrnai er mwyn cyrraedd mewn da bryd
- Os wyt ti'n cael dy ohirio'n anochel - ffonia i roi gwybod iddyn nhw
- Rho'r ffôn symudol i ffwrdd cyn mynd i mewn
- Os wyt ti'n ysmygu, ceisia peidio cyn i ti fynd i dy gyfweliad. Gall yr oglau roi rhai pobl i ffwrdd
Yn Ystod
- Gwena, cadwa gyswllt llygad a cheisia fod yn hyderus - ond paid bod yn rhy hy
- Paid chnoi gwm
- Bydda'n naturiol, a cheisia ymddangos yn gyfeillgar ac wedi ymlacio
- Ceisia edrych fel bod diddordeb gen ti, hyd yn oed os nad oes!
- Siarada'n eglur a cheisia osgoi atebion syml 'ie' a 'na', y rheswm ti'n cael cwestiynau ydy am fod nhw angen gwybod mwy amdanat
- Meddylia cyn ateb
- Efallai byddi di hyd yn oed yn mwynhau'r profiad!
Ar Ôl
- Cofia, yr eiliad rwyt ti'n gadael does dim byd arall gallet ti ei wneud nes iddyn nhw gysylltu â thi
- Mae'n arferiad cyffredin i botensial gyflogwyr adael i ti wybod o fewn ychydig ddyddiau os wyt ti wedi bod yn llwyddiannus neu beidio, mewn llythyr neu alwad ffôn
- Mater o aros yw hi a bod yn amyneddgar
- Os nad wyt ti'n llwyddiannus, cofia fod cael dy wrthod yn rhan o fywyd a does dim angen cosbi dy hun. Ceisia ddysgu o'r profiad. Nid yw cael dy wrthod yn golygu dy fod di'n dda i ddim
- Pan fyddi di'n teimlo'n barod, cysyllta â nhw i gael adborth. Efallai y bydd hyn yn helpu ti i wella dy sgiliau cyfweliad at y tro nesaf