Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael Swydd » CVs



CVs

Mae CV yn fyr am Curriculum Vitae ac mae'n grynodeb o dy fanylion personol, profiad gwaith, sgiliau a galluoedd, ysgol ac arholiadau ti wedi llwyddo ynddynt neu yn mynd i sefyll.

Mae'n gyfle i ti werthu dy hun i ddarpar gyflogwr.

Mae CV yn ddefnyddiol oherwydd gallet ti fynd ag ef neu ei yrru i botensial gyflogwyr i adael iddynt wybod dy fod chwilio am waith, hyd yn oed pan nad oes swydd yn cael ei hysbysu o reidrwydd. Bydd dy fanylion yn cael eu cadw ar ffeil nes bydd swydd yn dod yn rhydd.

Awgrymiadau cyffredinol ar lunio CV

  • Ni ddylai CV fod yn fwy na 2 ochr o bapur maint A4
  • Paid meddwl bod yn rhaid i ti gynnwys popeth - ceisia benderfynu ar dy nodweddion gorau a'r hyn sy'n berthnasol i'r mathau o swyddi rwyt ti'n gwneud cais amdanynt, a glyna atynt
  • Defnyddia brosesydd geiriau a phrintio dy CV ar bapur plaen gwyn neu liw hufen, (os nad oes cyfrifiadur gen ti gartref, gallet ddefnyddio un yn dy ganolfan gyrfa, llyfrgell neu ganolfan ieuenctid lleol yn ôl pob tebyg)
  • Mae'n bwysig gwerthu dy hun, ond paid â chael dy demtio i ddweud celwydd - bydd yn rhaid i ti brofi'r hyn rwyt ti'n ei ddweud mewn cyfweliad
  • Cofia ddiweddaru dy CV fel ei fod yn barod bob tro
  • Cofia nad oes rhaid i ti weld hysbyseb am swydd wag cyn anfon dy CV. Gallet anfon llythyr eglurhaol gyda chopi o dy CV at gwmnïau / sefydliadau mae gen ti ddiddordeb mewn gweithio iddyn nhw – efallai bod swydd wag ganddyn nhw!

Dylai dy CV gynnwys:

  • Dy enw, cyfeiriad, oed a manylion cyswllt
  • Ychydig o frawddegau neu baragraffau byr am dy rinweddau gorau, beth ti'n gobeithio cyflawni
  • Adran am dy addysg ac unrhyw gymwysterau sydd gen ti
  • Adran sydd yn rhoi manylion unrhyw swyddi ti wedi'i gael, dyddiad cychwyn a gorffen y swyddi hynny, beth oedd dy ddyletswyddau a'r tâl
  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol am dy sgiliau, hobïau a diddordebau sydd efallai yn berthnasol
  • Enwau, cyfeiriadau a manylion cyswllt o leiaf dau ganolwr (cyn cyflogwr ac/neu athro/tiwtor neu rywun sydd yn adnabod ti'n dda fel ffrind teulu, gweithiwr ieuenctid ac yn y blaen)

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50