Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael Swydd » Ffurflenni Cais
Yn yr Adran Hon
Ffurflenni Cais
Mae ffurflenni cais yn gyfle i ti werthu dy hun i gyflogwr a dyma'r brif ffordd mae cyflogwr yn dewis pobl ar gyfer cyfweliadau am swyddi, felly mae'n bwysig i gael nhw'n iawn.
- Weithiau mae cwmnïoedd neu sefydliadau mawr efo meini prawf neu set o ofynion am y fath o brofiad, sgiliau a phriodoledd maent yn edrych amdano yn yr ymgeisydd llwyddiannus
- Gelwir hyn yn Fanyleb Person neu Weithiwr ac mae'n darparu manylion o'r pethau hanfodol byddant yn hoffi o'r ymgeiswyr
- Fel arfer bydd hwn yn cael ei roi i ti, gyda'r disgrifiad swydd yn rhestru dyletswyddau'r swydd a ffurflen gais i ti lenwi
Awgrymiadau cyffredinol i lenwi ffurflen cais:
- Darllena'r cyfarwyddiadau yn ofalus, a'u dilyn
- Gall rhai ffurflenni fod yn gymhleth felly gofynna am help os oes angen gan riant, athro, gweithiwr ieuenctid neu gynghorydd gyrfa
- Cymera dy amser – os yw'n bosib llungopïa’r ffurflen gais gwreiddiol ac ymarfer ar hwn i gychwyn. Os nad oes posib i ti ei lungopïo, yna ysgrifenna dy atebion ar ddarn o bapur i gychwyn. Nid oes dim gwaeth na ffurflen gais crychlyd gyda marciau drosti
- Defnyddia dy CV i helpu llenwi'r ffurflen a gwna'n sicr dy fod yn llenwi pob adran neu ysgrifennu 'Nid yw'n Berthnasol'
- Os oes un ar gael, defnyddia'r Fanyleb Person neu Weithiwr fel canllaw – mae'r cyflogwr yn dweud wrthyt ti am beth maen nhw'n chwilio ac yn aml ni fyddent yn cysidro dy ffurflen gais ymhellach os nad wyt ti'n cyrraedd y meini prawf hynny
- Mae rhai pobl yn meddwl nad oes rhaid llenwi rhannau o'r ffurflen gais am fod y wybodaeth yn eu CV ond gall hyn gyfrif yn dy erbyn. Efallai bod y cyflogwr yn delio gyda nifer fawr iawn o ffurflenni cais am un swydd felly maent angen gallu dod o hyd i'r wybodaeth pwysig yn sydyn ac yn ble disgwylir!
- Rho'r wybodaeth a ofynnir amdano. Os ydyn nhw'n gofyn am CV, anfona un, os nad ydynt, paid
- Unwaith rwyt ti'n hapus gyda'r ffurflen ymarfer, llenwa'r ffurflen wreiddiol mewn inc du, yn daclus ac yn glir
- Weithiau bydd cyflogwyr yn derbyn ffurflenni cais wedi'u teipio a'u gyrru trwy e-bost ond mae'n rhaid gofyn gyntaf
- Mae'n bwysig gwerthu dy hun ond paid â chael dy demtio i ddweud celwydd. Mae gan gyflogwr yr hawl i ddiswyddo rhywun sydd wedi ei gamarwain yn fwriadol ar ffurflen gais neu mewn cyfweliad
- Gofynna ganiatâd y canolwyr cyn defnyddio'u henwau
- Os oes angen, llofnoda a rhoi dyddiad ar y ffurflen
- Llungopïa’r ffurflen wedi'i llenwi os yn bosib – bydd hwn yn helpu ti i baratoi os wyt ti'n cael cyfweliad a gall ddefnyddio ef fel cyfeirnod yn y dyfodol os oes angen llenwi ffurflen gais arall
- Sicrha dy fod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad cau
- Anfona lythyr eglurhaol os wyt ti am ychwanegu mwy o wybodaeth. Mae llythyr eglurhaol yn gyflwyniad syml sydd yn dweud pam ti'n cyflwyno'r ffurflen gais ac yn rhoi ychydig o resymau byr pam ti'n meddwl dy fod yn addas ar gyfer y swydd