Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Dioddefwyr Trosedd » Tystion
Yn yr Adran Hon
Tystion
Efallai dy fod wedi gweld rhywun yn troseddu neu fod gen ti wybodaeth am drosedd. Er mwyn helpu’r heddlu i lwyddo i erlyn rhai troseddwyr, mae angen i bobl gynnig eu help a rhoi tystiolaeth.
- Efallai y bydd gofyn i ti wneud datganiad o’r hyn sydd wedi digwydd, ac efallai y bydd gofyn i ti fynd i’r llys
- Os wyt ti dan 16 oed, mae’n rhaid i riant neu warcheidwad fod yn y llys gyda thi
- Os wyt ti dan 14 oed ni fydd gofyn i ti roi tystiolaeth ar dy lw. Mae bod ar dy lw yn golygu bod yn rhaid i ti dyngu y byddi di’n dweud y gwir neu ddim ond yn dweud yr hyn rwyt ti’n credu sy’n wir
- Mae bod yn dyst yn y llys yn gallu bod yn anodd ac yn drallodus os mai ti ydy dioddefwr y trosedd sydd yn cael ei erlyn, ond fe fydd yna bobl i gynorthwyo a chefnogi ti
Am fanylion defnyddiol ac addysgiadol am fod yn dyst ymwela â gwefan Victim Support.