Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Dioddefwyr Trosedd » Trais yn y Cartref



Trais yn y Cartref

Mae bod yn ddioddefwr trais yn y cartref yn brofiad brawychus ac unig iawn ac yn aml yn cael ei guddio oddi wrth ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu ac fel arfer mae'n achosi teimladau o gywilydd ac euogrwydd. Yn anffodus, rydym yn gwybod erbyn hyn ei fod yn rhywbeth mwy cyffredin na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl.

Trais yn y cartref ydy perthynas treisgar a gallai gynnwys camdriniaeth lafar, tactegau pwysau, amharchu, bygythiadau a thrais corfforol a rhywiol. Mae'n cynnwys dynion a merched yn bod yn dreisgar tuag at ei gilydd a rhieni yn bod yn dreisgar tuag at blant.

Y ffordd gorau o ymdopi gyda throsedd trallodus fel hyn ydy i gael help a chefnogaeth. Mae yna nifer o grwpiau ac asiantaethau cefnogi i ti gysylltu gyda nhw fydd yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i helpu ti i ymdopi ac i gysylltu â’r heddlu pan fyddi di’n gallu wynebu’r heriau y bydd hynny’n ei olygu.

Os wyt ti’n wirioneddol pryderu ynghylch perygl enbyd o ymddygiad treisgar yn y cartref, yna ffonia'r heddlu ar 999.

Mae’n rhaid mynd i’r afael ag ymddygiad treisgar yn y cartref cyn gynted â phosib, er mwyn ceisio sicrhau na fydd y profiadau’n achosi niwed parhaol i’r oedolion a’r plant.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50