Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Dioddefwyr Trosedd » Trais Rhywiol
Yn yr Adran Hon
Trais ac Ymosodiad Rhywiol
Mae trais rhywiol yn drosedd dreisgar hynod ddifrifol, ac nid bai’r dioddefwr ydyw dan unrhyw amgylchiadau. Mewn llawer o achosion mae’r troseddwr yn adnabod y dioddefwr.
Gall ddigwydd i unrhyw un, bachgen neu ferch, ac nid yw'n ddim i'w wneud ag oed, dy olwg neu sut wyt ti'n gwisgo. Fodd bynnag, gallet ti helpu i ddiogelu dy hun drwy gadw llygad ar dy ddiodydd i sicrhau nad oes neb yn sleifio cyffur i mewn iddyn nhw er mwyn cyflawni trais rhywiol o dan ddylanwad y cyffur.
Gall ymosodiad trais rhywiol dy adael yn teimlo wedi diraddio, yn ddryslyd, yn isel ac yn unig. Byddai’n well gan lawer o bobl beidio â siarad amdano a'i gadw iddyn nhw eu hunain, weithiau am flynyddoedd. Fodd bynnag, mae’n bwysig dy fod di’n chwilio am help cyn gynted â phosib fel dy fod di’n dechrau’r broses o wynebu'r hyn sydd wedi digwydd.
Os wyt ti yn y sefyllfa drallodus ac anodd o orfod dweud wrth yr heddlu am drais rhywiol yna byddai'n fuddiol iawn i ti gael rhywun gyda thi. Os wyt ti wedi cael dy ymosod yna mae'n bwysig dy fod di'n dweud wrth yr heddlu yn syth. Mae gan yr heddlu swyddogion sydd wedi'u hyfforddi yn arbennig fydd yn gweithio hefo ti, gallet ti gysylltu gyda nhw yn ystod ymchwiliadau ac unrhyw erlyn a ddaw yn ei sgìl.
Er y byddi di'n teimlo fel cael cawod a newid dy ddillad ar unwaith, mae’n bwysig nad wyt ti’n gwneud hynny gan y bydd tystiolaeth ynddyn nhw y gall yr heddlu ei chasglu i'w helpu i ddod o hyd i'r ymosodwr a’i erlyn. Hefyd, fe fydd angen i ti weld meddyg cyn gynted â phosib, a bydd yr heddwas yn helpu i drefnu hyn ar dy ran.
Am wybodaeth bellach edrycha ar y dudalen Trais ac Ymosodiad Rhywiol yn y tudalennau Trosedd yn yr adran wybodaeth.
- GOV.UK: Rhoi gwybod am drais neu ymosodiad rhywiol
- Galw Iechyd Cymru: Trais ac Ymosodiad Rhywiol
- Rape Crisis: Llinell Gymorth Rhadffôn Cenedlaethol - 0808 802 9999 (12:00 – 14:30 & 19:00 – 21:30 dyddiol)
- Rape Crisis: Dod o hyd i ganolfan Rape Crisis
- NHS Choices: Cymorth ar ôl trais ac ymosodiad rhywiol
- Victim Support: Trais neu ymosodiad rhywiol (gwybodaeth i fenywod)
- Victim Support: Trais neu ymosodiad rhywiol (gwybodaeth i dynion)
- Survivors UK: I ddynion a gafwyd eu treisio neu eu cam-drin
- Cyngor BBC Radio 1: Trais