Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Dioddefwyr Trosedd » Stelcio
Yn yr Adran Hon
Stelcio
Diffiniad o stelcio yw aflonyddwch cyson a dyfalbarhaus gan berson arall. Mae'n drosedd ofnus a difrifol.
Gall gynnwys nifer o weithgareddau fel cael dy ddilyn, derbyn galwadau ffôn ac ymweliadau dieisiau cyson ac yn cael dy wylio. Mae’n bosib hefyd cael dy stelcio trwy e-bost neu mewn ystafell sgwrsio, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o bolisïau diogelwch a phreifatrwydd pan fyddi di’n defnyddio’r rhyngrwyd ac ati.
Os wyt ti’n credu bod rhywun yn dy stelcio:
- Cysyllta â’r heddlu lleol
- Gofynna am enw’r swyddog sy’n gofalu am dy achos fel y byddi di'n gwybod pwy i gysylltu ag ef neu hi yn y dyfodol
- Gofynna i ffrind a fydd yn fodlon bod yn gyswllt arall ar gyfer yr heddlu. Bydd hyn yn ddefnyddiol mewn sefyllfa lle byddi di dan straen, fel bod modd i’r ffrind siarad â’r heddlu os nad wyt ti’n teimlo y gallet ti wneud hynny
- Os bydd y broblem yn parhau, yna mae’n bosib y gallet ti gael gwaharddeb sifil yn erbyn y person sy’n aflonyddu arnat ti; fe ddylai’r heddlu allu helpu gyda'r manylion am sut i wneud hyn