Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Dioddefwyr Trosedd » Diogelwch Personol
Yn yr Adran Hon
Diogelwch Personol
Er bod y cyfryngau’n rhoi’r argraff bod ein strydoedd yn dod yn fwyfwy treisgar, isel yw’r tebygrwydd y bydd rhywun yn ymosod arnat ti yn y trefi, y dinasoedd a chefn gwlad. Fodd bynnag, mae’n hanfodol dy fod di’n ymwybodol o’r peryglon a dy fod di’n cymryd camau rhesymol i amddiffyn dy ddiogelwch personol.
Rhagofalon yw’r canlynol y dylet ti eu hystyried:
- Cynllunia ymlaen llaw, yn enwedig os wyt ti’n mynd allan am y noson, a dyweda wrth rywun am ble rwyt ti’n mynd a pha bryd rwyt ti’n disgwyl bod yn ôl
- Os wyt ti’n teithio ar gludiant cyhoeddus, eistedda'n agos i bobl eraill neu'r gyrrwr
- Archeba tacsi o gwmni ag enw da iddo, a cheisia deithio gyda ffrindiau yn hytrach nag ar ben dy hun
- Ceisia peidio ag yfed gormod gan y bydd hyn yn achosi i ti ddod yn llai ymwybodol o unrhyw beryglon
- Paid cyfarfod â phobl nad wyt ti’n eu hadnabod ar ben dy hun, a gwna'n siŵr dy fod yn cyfarfod â phobl mewn man cyhoeddus ble mae yna lawer o bobl o gwmpas
- Cadwa'n wyliadwrus a chuddia dy eiddo, fel ffonau symudol, pyrsiau a waledi
- Wrth gerdded, cadwa at lwybrau troed sydd wedi’u goleuo’n dda
- Bydda'n wyliadwrus, a gwna'n siŵr dy fod yn edrych ac yn ymddwyn yn hyderus; mae'n llai tebygol y bydd rhywun yn ymosod ar rywun hyderus
- Parcia'r car mewn stryd sydd wedi’i goleuo’n dda
- Gartref, gofynna i unrhyw un sy'n galw dangos cerdyn adnabod, ac os wyt ti'n eu hamau paid gadael iddyn nhw ddod i mewn
- Hefyd, meddylia am dy ymddygiad pan fyddi di allan; wyt ti’n gwneud unrhyw beth sy’n gwneud i rywun arall deimlo'n nerfus ac yn ofnus?