Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Plant 5-11 Oed



Plant 5-11 oed

Bydd y rhan fwyaf o blant yn cychwyn yn yr ysgol gynradd yn bump oed. Gall hyn fod yn gyfnod emosiynol iawn i rieni oherwydd mae’n gam enfawr ac yn newid mawr mewn ffordd o fyw.

Gall meddwl y bydd oedolion eraill bellach yn rhan o fywyd dy blentyn beri gofid.

Yn ystod wythnos gyntaf dy blentyn yn yr ysgol, efallai byddi’n teimlo’n ofidus, pryderus, dagreuol ac emosiynol. Mae hyn yn ymateb arferol ac fe wnaiff wella ymhen amser.

  • Os wyt yn bryderus o gwbl ynghylch dy blentyn yn cychwyn yn yr ysgol, efallai gall siarad ag un o athrawon yr ysgol neu riant arall sydd â phlentyn hŷn roi sicrwydd i ti
  • ,li>Wrth ddewis ysgol, dylet drefnu gyda’r pennaeth i ymweld â’r ysgol honno ymlaen llaw
  • Rhaid i dy Awdurdod Addysg Lleol roi cyfle i rieni ddweud pa ysgol y maent am i'w plant ei mynychu, ac mae gan yr awdurdod gyfrifoldeb i geisio cyflawni hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gwarantu lle i dy blentyn. Gallai’r ysgol fod yn llawn dop. Os na fyddi’n fodlon â’r penderfyniad, bydd gennyt hawl i apelio
  • Pan fydd dy blentyn wedi cychwyn yn yr ysgol, ceisia ymddiddori yn ei addysg. Rho gyfle iddo/iddi siarad â thi os yw’n dymuno, rho gymorth iddo/iddi i wneud gwaith cartref, a sicrha fod ef neu hi yn dysgu adref hefyd, trwy wneud digon o ddarllen ac ysgrifennu

9-11 oed

Bydd yr oedran hwn yn cynrychioli newid mawr yn dy blentyn wrth iddo/iddi gychwyn bod yn fwy annibynnol a phendant, a chychwyn cwestiynu rheolau a rheoliadau.

  • Dyma pryd bydd plant yn cychwyn holi cwestiynau am ryw hefyd
  • Gall hyn fod yn dipyn o sioc yn y lle cyntaf oherwydd byddant yn ymddangos mor ifanc i ti, ond ceisia ateb eu cwestiynau mor onest ag y gelli mewn ffordd y gallant ddeall
  • Cynorthwya hwy i wahaniaethu rhwng y ffeithiau a mythau, ond nid oes rhaid i ti fynd i ormod o fanylder
  • Dengys pob gwaith ymchwil y bydd ein plant yn fwy tebygol o aros nes byddant yn hŷn cyn cael cyfathrach rywiol, defnyddio dulliau atal cenhedlu a theimlo’n fwy hyderus i siarad â'u partner am faterion rhywiol, os byddwn yn siarad yn agored â hwy am faterion rhywiol

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50