Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant



Dod Yn Rhiant

Mae dod yn rhiant yn gyfrifoldeb enfawr sy' newid bywyd; bydd yn newid dy fywyd am byth, bydd yn newid dy ddull o reoli a gwario arian a dy ffordd o fyw, a dyma un o'r penderfyniadau mwyaf arbennig a heriol y gelli eu gwneud.

Mae dod yn Fam neu Dad yn golygu ymroddiad gydol oes. Mae golygu mwy na gallu chwarae gyda baban bach ciwt, mae'n golygu cymryd cyfrifoldeb am fywyd bod dynol arall am weddill dy fywyd di.

Gall ymgymryd â chyfrifoldebau magu plant fod yn deimlad llethol.

Daw cariad yn naturiol i’r rhan fwyaf o rieni, ond bydd pawb yn wynebu anawsterau rywbryd – o fabanod na wnaiff gysgu yn ystod y nod i blant bach sy’n strancio.

Bydd rhaid i ti ddysgu bod yn rhiant da wrth wneud y gwaith, nid yw’n wybodaeth sydd gennyt yn naturiol, a bydd y rhan fwyaf o bobl yn rheoli'r heriau emosiynol ac ymarferol hyn â chymysgedd o gariad, cymorth gan berthnasau a ffrindiau, cyngor da a synnwyr cyffredin.

Bydd ar rai pobl angen help ychwanegol, ac os byddi’n teimlo fod angen cymorth proffesiynol ynghylch magu plant arnat, yna gallai dosbarth magu plant gynnig hyn i ti.,/p>

Gelli hefyd gyfeirio at yr adran hon i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, ar faterion yn amrywio o feichiogrwydd i enedigaeth plentyn, gofalu am blant bach a chychwyn addysg dy blentyn yn yr ysgol.

1 CommentPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 84 mis yn ôl - 27th October 2009 - 08:40am

If you want to speak to someone informally, then we can offer you tht service.
Our worker can meet you at our office, a local youth centre, your school or college, for a chat about relationships, your rights, and what you can do if you find yourself in a bad relationship or near the end of one.
We can also offer the same service over the phone or via email.
Please contact us with any query, no matter how big or small.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50