Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Gwahanu a Cholled
Yn yr Adran Hon
Gwahanu A Cholled
Mae pobl yn fodau cymdeithasol wrth reddf a byddwn yn tueddu i fyw a rhyngweithio’n agos â grwpiau o bobl megis ein teulu, ffrindiau, cydweithwyr, cariadon, cyd-fyfyrwyr ac ati.
Gall pethau fod yn anodd pan fydd rhaid ein gwahanu oddi wrth y sawl sy'n annwyl i ni neu pan fyddwn yn eu colli. Weithiau bydd pobl yn symud i ffwrdd ac yn peidio â bod yn rhan o'n bywyd, weithiau bydd pethau'n digwydd a bydd perthynas ag unigolyn yn dod i ben, ac yn drasig, bydd y bobl sy'n annwyl i ni ’n marw weithiau. Gall hyn arwain at deimladau o sioc, tristwch neu hyd yn oed dicter nad ydym wedi’u teimlo erioed o’r blaen, efallai.
Mae’n naturiol i bobl grio a galaru yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd byddi’n hiraethu am rywun sy'n annwyl i ti. Mae’n bwysig peidio cadw dy deimladau i ti dy hun a cheisio canfod dull o’u mynegi, yn enwedig os bydd pethau’n anodd i ti.
Cofia bob amser nad oes rhaid i ti ymdopi â hyn dy hun, efallai bydd angen cymorth a chefnogaeth arnat. Os yw hi'n anodd i ti ymdopi yn yr ysgol, y coleg neu yn y gweithle, cofia siarad â rhywun y gelli ymddiried ynddo ac a all dy gynorthwyo yn ystod y cyfnod anodd hwn.