Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Bod yn Rhiant
Yn yr Adran Hon
Bod yn Rhiant
Cael plentyn yw un o’r penderfyniadau mwyaf a wnei.
Ni fydd dy fywyd yr un fath fyth eto a byddi’n rhiant am weddill dy fywyd, Bydd rhaid i ti roi anghenion y plentyn yn gyntaf a dylet fod yn barod i ymroddi dy holl amser a dy holl egni i'r gwaith o fagu dy blentyn.
Ni ddylet fyth ruthro i gael babi. Mae’n bwysig disgwyl nes byddi mewn sefyllfa sefydlog, ac yn ddelfrydol, mewn perthynas tymor hir iach ac ymroddedig, lle mae'r ddau ohonoch yn dymuno cael plentyn ac yn teimlo'n barod i fod yn rhieni.
Gall bod yn feichiog a chael babi fod yn brofiad hynod anodd a brawychus ar brydiau, felly mae’n bwysig fod gennyt gariad a chefnogaeth partner i dy gynorthwyo i ymdopi â hynny.
Ystyria dy ddyfodol di a dyfodol dy blentyn.
>Cyn penderfynu ceisio cael plentyn, bydd rhaid i ti ystyried nifer o bethau yn gyntaf:
- A wyf mewn gwirionedd yn barod i roi anghenion fy mhlentyn o flaen fy anghenion fy hun?
- A wyf yn barod i roi’r gorau i fy mywyd cymdeithasol?
- A wyf mewn gwirionedd yn barod i atal fy ngyrfa neu fy addysg?
- A wyf mewn gwirionedd yn barod i ymroddi fy holl amser ac egni i’r gwaith o fagu plentyn?
- Alla i fforddio cael plentyn a'i fagu?
- A oes gennyf gefnogaeth fy mhartner neu fy nheulu?
- A wyf yn barod am y newidiadau a ddaw i ran fy nghorff?
- Sut fydda i’n teimlo ar ôl geni’r plentyn?
- Sut fydd fy mhartner yn teimlo ar ôl geni’r plentyn?
- A wyf yn barod am y straen emosiynol a wnaiff babi achosi i fy mherthynas?
- Sut wnaiff babi newid fy mywyd?
- A wyf mewn gwirionedd yn barod am y cyfrifoldeb hwn?
- Ai dyma fy nymuniadau mewn gwirionedd?
Os wyt yn ceisio beichiogi, mae dulliau o baratoi dy gorff yn well:
- Dilyn diet cytbwys, sy'n isel mewn braster a siwgr
- Cyflawni pwysau corfforol iach
- Yfed llai o alcohol
- Rhoi’r gorau i ysmygu
- Cymryd asid ffolig cyn ac yn ystod beichiogrwydd i leihau’r posibilrwydd o namau geni
- Gall dynion hefyd baratoi at feichiogrwydd trwy gadw’n heini, yfed llai o alcohol, rhoi’r gorau i ysmygu, bwyta prydau cytbwys a chymryd ychwanegion yn cynnwys sinc a seleniwm sy’n gwella ffrwythlondeb
- Ni ddylai neb roi pwysau arnat i gael plentyn, pa un ai a wyt yn ddyn neu'n fenyw. Mae gennyt ddewis, felly paid â gwneud dim nes byddi’n teimlo'n 100% yn barod ac ymroddedig