Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod Yn Rhan O Deulu



Bod yn Rhan o Deulu

Gall bod yn rhan o deulu fod yn wych, oherwydd bydd gennyt bob amser rywun sy’n perthyn i ti, rhywun sy’n rhannu’r un atgofion â ti, a rhywun a all dy gynorthwyo a dy gefnogi.

Mae pob teulu’n wahanol, yn cynnwys rhai bach a mawr, teuluoedd sy’n byw gyda’i gilydd a rhai sy’n byw ar wahân, teuluoedd mabwysiedig, llysdeuluoedd, neu deuluoedd lle mae rhieni maeth neu warcheidwaid.

Weithiau, bydd problemau o ran cyd-dynnu â’r naill a’r llall wrth fyw mor glos at eich gilydd a gorfod rhannu llefydd byw. Mae dadleuon achlysurol yn naturiol ac yn arferol, ac nid yw'r teulu perffaith yn bodoli. Fodd bynnag, gallwn ddysgu llawer iawn ynghylch cyd-dynnu â phobl eraill trwy ddysgu sut i fyw gyda’n teulu adref.

Dyma rai cynghorion ynghylch sicrhau perthnasau teuluol hapus:

  • Siarada ag aelodau dy teulu ynghylch dy deimladau a dy bryderon, a chofiwch wrando ar eich gilydd hefyd
  • Os wyt am i bobl dy drin yn dda, rhaid i ti eu trin yn dda hefyd. Mae pobl sy’n onest ac yn parchu ei gilydd yn cyd-dynnu’n llawer gwell na’r sawl sy’n anfoesgar, uchel eu cloch a hunanol
  • Os wyt yn ferch neu’n fachgen, neu os mai ti yw’r hynaf, yr ieuengaf, y byrraf neu'r talaf yn eich teulu, nid yw hynny’n rhoi mwy o hawliau i ti na gweddill dy teulu. Mae’n golygu bod yn oddefgar ac yn ystyriol o’r naill a’r llall

Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth i ti am fywyd teuluol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50