Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Plant 1-4 Oed



Plant 1-4 oed

Gall bod yn rhiant plentyn bach fod yn ddifyr ond gall fod yn flinedig iawn hefyd.

Mae dy blentyn yn datblygu ei bersonoliaeth ei hun, gan ddysgu am y byd a darganfod beth all a beth na all wneud, a all fod yn anodd ar brydiau.

Mae’n bwysig hefyd dy fod yn neilltuo amser i ti dy hun ac i’w dreulio gyda dy bartner, os oes gennyt bartner, neu dy ffrindiau. Mae’n gam allweddol yn natblygiad plentyn, felly cofia dreulio amser gydag ef neu hi, yn chwarae a dysgu bob dydd.

Mae pethau bychain y gelli eu gwneud bob dydd a wnaiff helpu dy blentyn i ddysgu, megis:

  • Canu neu ddawnsio gyda’ch gilydd
  • Darllen i dy blentyn neu gyda'ch gilydd
  • Cyfrif pethau fel nifer y grisiau neu nifer y ceir y gallwch eu gweld
  • Chwarae gemau geiriau fel ‘I Spy´
  • Mae chwarae â dŵr a thywod yn gyflwyniad da i wyddoniaeth
  • Chwarae gemau pêl
  • Tynnu lluniau neu chwarae â thoes

Mae ymuno â grŵp rhiant a phlentyn yn ffordd dda i ti a dy blentyn gwrdd â phobl newydd a chymdeithasu cyn iddo/iddi gychwyn mewn ysgol feithrin

Ysgol Feithrin

Pan fydd plant yn dair oed, gellir eu cofrestru mewn ysgol feithrin leol.

  • Bydd hyn yn gam mawr i blant a rhieni a gall beri gofid i’r ddau ohonynt oherwydd efallai dyma fydd y tro cyntaf iddynt fod ar wahân am unrhyw gyfnod o amser
  • Mae ysgol feithrin yn le gwych i blant gymysgu â phlant eraill, datblygu sgiliau cymdeithasol a dysgu rhagor
  • Mae hefyd yn ffordd dda i’w paratoi at yr ysgol gynradd

Hyfforddiant poti

  • Bydd y rhan fwyaf o blant yn barod i gychwyn hyfforddiant poti rhwng dwy a thair oed, ond gall ddigwydd yn ddiweddarach
  • Mae arwyddion eu bod yn barod i gychwyn yn cynnwys bod yn ymwybodol pan fydd angen iddynt a phan fyddant yn barod i fynd i’r tŷ bach
  • Fel arfer, bydd angen rhagor o amser ar fechgyn i ddysgu defnyddio'r poti

Y ‘deuoedd dychrynllyd’

  • Gall y ‘deuoedd dychrynllyd' gychwyn cyn bydd plant yn ddwy oed. Byddant yn ymddangos yn fwyfwy negyddol ac fel pe baent yn gwrthwynebu popeth a fyddi'n ei wneud. Bydd hyn yn arwain at stranciau rheolaidd. Mae’n rhan arferol o dyfu i fynd a bydd yn parhau dros dro yn unig
  • Dal dy dir a bydda’n gadarn, ond cofia ganiatáu iddynt fynegi eu hannibyniaeth

Imiwneiddiadau

  • Pan fydd dy blentyn yn 13 mis oed, cynigir pigiad MMR iddo i’w ddiogelu rhag y Frech Goch, Clwy’r Pennau a Rwbela, a elwir hefyd yn Frech Goch yr Almaen
  • Bydd angen pigiad atgyfnerthu pan fydd yn bedair oed
  • Mae rhai adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi awgrymu fod cysylltiad rhwng y pigiad MMR ac awtistiaeth ond nid oes tystiolaeth wyddonol i gefnogi hyn
  • Mae’r llywodraeth yn argymell y dylai pob plentyn gael y brechlyn i’w gwarchod rhag yr afiechydon ac osgoi heintiau iechyd posibl
  • Os wyt yn bryderus ynghylch y brechlyn MMR, siarad â dy feddyg teulu neu ymwela â www.nhs.uk/conditions/mmr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50