Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Plant 12 Oed Neu Hŷn
Yn yr Adran Hon
Plant 12 oed neu hŷn
Pan fydd dy blentyn yn 11 neu 12 oed, bydd yn cychwyn yn yr ysgol uwchradd. Gall hyn fod yn amser pryderus iawn i’r rhieni a’r plant.
Bydd y rhan fwyaf o blant yn eithaf pryderus ynghylch y newid, y llwyth gwaith a gwneud ffrindiau newydd, ond gall sicrwydd a chefnogaeth gan rieni gynorthwyo, felly cofio fod ar gael i wrando ar unrhyw bryderon y bydd ganddynt.
Byddant yn wynebu llawer o newidiadau personol a chymdeithasol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan sefydlu eu hunaniaeth a mynd trwy gyfnod glasoed.
Ceisia barhau i gyfathrebu’n dda â hwy fel byddant yn teimlo y gallant siarad â thi am unrhyw broblemau y gallant fod yn eu hwynebu.
Mae cychwyn yn yr ysgol uwchradd hefyd yn golygu gorfod gwneud arholiadau, yn cynnwys:
- Arholiadau Cyfnod Allweddol 3 mewn Saesneg, Cymraeg (iaith gyntaf), mathemateg a gwyddoniaeth (disgyblion 11-14 oed)
- Arholiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 – TASAU (disgyblion 14 oed)
- Arholiadau diwedd Cyfnod Allweddol 4, h.y. TGAU, NVQs neu GNVQs (disgyblion 16 oed)
Ar ddiwedd pob cyfnod arholiadau, fe gei wybod beth yw lefel dy blentyn a gelli ddysgu camau nesaf ei addysg gydag ef/hi a'r athrawon.
Mae’n bwysig i ti ymddiddori yn addysg dy blentyn cymaint ag i gelli a bod ar gael i gynorthwyo â gwaith cartref, gwaith cwrs neu adolygu, os yw’n dymuno hynny.
Cyfnod Glasoed
Gall cyfnod glasoed gychwyn unrhyw bryd rhwng 8 ac 16 oed, ond fel arfer bydd yn digwydd rhwng 9 a 13 oed. Gweler yr adran GLASOED am wybodaeth ynghylch y newidiadau sy’n digwydd yn ystod y cyfnod hwn.
- Mae’n bwysig fod dy blentyn yn deall newidiadau y bydd yn eu profi ac yn gwybod eu bod yn hollol normal, felly ceisia siarad gyda dy blentyn mor gynnar ag y gelli i osgoi unrhyw ddryswch
- Yn ogystal â newidiadau corfforol, efallai gwnaiff ymddygiad dy blentyn newid hefyd. Bydd llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn oriog a phiwis yn ystod cyfnod glasoed, ac mae hyn yn arferol
- Mae glasoed yn gyfnod dryslyd ac emosiynol i lawer o bobl ifanc a bydd arnynt angen siarad am hynny gyda rhywun, felly cofia fod ar gael iddynt pan fyddant yn dymuno siarad am bethau
- Gall bod yn rhiant pobl ifanc yn eu harddegau fod yn anodd. Weithiau, bydd rhaid ymdopi â llawer o hormonau, hwyliau ansad a ffraeon, ond fe ddaw'r cyfnod hwn i ben mae o law. Os bydd hi’n anodd i ti ymdopi, siarad â rhieni eraill i gael cyngor neu defnyddia’r dolenni isod i ganfod cymorth
Bwlio
Gall tyfu i fyny fod yn gyfnod anodd, ac efallai caiff rhai plant eu bwlio wrth i’w corff newid neu wrth iddynt symud i ysgol newydd, er enghraifft.
Gall bwlio amrywio o alw enwau a bygythiadau i gamdriniaeth gorfforol. Bydd rhai plant yn teimlo'n rhy chwithig neu ofnus i siarad â rhieni neu eu hathrawon am fwlio, felly edrycha am yr arwyddion fod dy blentyn yn cael ei ’fwlio, yn cynnwys:
- Bydd yn anfodlon mynd i’r ysgol neu bydd meddwl am hynny yn peri gofid
- Bydd yn ffugio salwch i osgoi mynd i’r ysgol
- Bydd ei ymddygiad yn newid, megis bod yn dawelach, ansicr neu ddig
- Bydd ganddo/ganddi friwiau a chleisiau anesboniadwy
Os wyt yn bryderus, ceisia siarad â dy blentyn a chreu awyrgylch ble gall siarad â thi yn rhwydd pan fydd yn dymuno gwneud hynny.
- Os bydd dy blentyn yn ymddiried ynot, cofia ei sicrhau nad yw ar fai a thrafoda ddulliau eraill o gynnig cymorth iddynt i ddelio â’r sefyllfa a stopio’r bwlio. Trefna apwyntiad yn yr ysgol i drafod y broblem â’i athro os bydd y bwlio’n digwydd yn yr ysgol
- Os bydd bwlio’n digwydd y tu allan i’r ysgol, ceisia siarad gyda rhieni’r plentyn arall/plant eraill yn uniongyrchol i ganfod dull o ddatrys y mater
- Uwchlaw popeth, cynorthwya dy blentyn i deimlo'n ddiogel trwy ddweud dy fod ar gael iddo/iddi bob amser a thrwy ymgynghori ag ef neu hi ynghylch sut i daclo’r broblem cyn gweithredu
Yn 16 Oed
Efallai fod hyn yn codi arswyd arnat, ond pan fydd dy blentyn yn 16 oed, gall gael cyfathrach rywiol yn gyfreithlon a phriodi a gadael cartref â dy ganiatâd.
- Pan fydd yn 16 oed, bydd dy blentyn yn teimlo’n fwy annibynnol ac mae’n debyg y bydd yn treulio cyfnodau cynyddol o amser oddi cartref
- Efallai byddi’n bryderus amdano/amdani, ond cofia barchu ei breifatrwydd/ phreifatrwydd. Ymddiddora ym mywyd dy blentyn, ond paid â busnesa
- Mae cyfeillgarwch ac argraff pobl eraill ohonynt yn bwysig iawn i bobl ifanc yn eu harddegau, ac weithiau, gall y pwysau cyfoedion hwn arwain at eich plentyn yn ei arddegau yn cychwyn perthynas rywiol a hyd yn oed yn yfed a chymryd cyffuriau
- Edrycha am unrhyw ymddygiad anarferol neu groes i gymeriad sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau
- Os byddi’n bryderus, siarad ag ef ni i egluro dy bryderon
- Gall ceisio cael cydbwysedd rhwng diogelu dy blentyn a chaniatáu ychydig o ryddid iddo/iddi fod yn anodd. Yr allwedd i berthynas hapus ac iach gyda dy blentyn yn ei arddegau yw cyfathrebu, felly cofia gadw’r sianelau cyfathrebu ar agor