Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Bod mewn Perthynas



Bod Mewn Perthynas

Mae awydd i ganfod rhywun i fod mewn perthynas ag ef neu hi, a rhannu dy amser a dy brofiadau gydag ef neu hi, yn rhywbeth arferol ac iach. Mae pob perthynas yn unigryw, ac nid oes unrhyw frys i fod mewn perthynas nes byddi’n teimlo dy fod yn barod.

Gall fod yn brofiad gwych, ond weithiau gall fod yn gyfnod dryslyd neu bryderus i lawer ohonom. Mae bod gyda rhywun yn golygu parch, cyfaddawdu a chyfathrebu ynghylch ein teimladau. Weithiau, bydd hi’n hawdd anghofio faint o amser, amynedd ac ymroddiad sydd eu hangen arnom i wneud i berthynas lwyddo.

Mae gennyt hawl i wneud dewisiadau yn dy berthnasau ac ni ddylet fod o dan bwysau i ruthro i wneud unrhyw beth. Cofia, dy deimladau di yw'r peth pwysicaf, ac os bydd angen cymorth a chyngor arnat, cofia rannu dy bryderon â rhywun rwyt yn ymddiried ynddo neu ynddi.

Mae’r adran hon yn cynnig cyngor a chymorth ynghylch materion megis canfod rhywun i'w ganlyn, troi cyfeillgarwch yn berthynas, mynd allan gyda rhywun, perthnasau o'r un rhyw, cydfyw â rhywun a phriodi, ac mae'n trafod nifer o bynciau yn cynnwys rhai o'r agweddau emosiynol y dylid eu hystyried.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50