Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Beichiogrwydd



Beichiogrwydd

Os wyt yn meddwl dy fod yn feichiog, mae'n well i ti gael gwybod yn iawn. Mae profion beichiogrwydd cartref ar gael o fferyllfeydd a rhai archfarchnadoedd. Maent yn gywir iawn, ond serch hynny, y ffordd fwyaf cywir o ganfod a wyt yn feichiog yw cael prawf beichiogrwydd am ddim yn dy feddygfa leol, neu glinig cynllunio teulu neu glinig pobl ifanc.

Gall bod yn feichiog fod yn gyffrous ac yn ddychrynllyd, yn dibynnu a yw'n feichiogrwydd bwriadol neu anfwriadol. Nid yw teimlo'n ddryslyd oherwydd cymysgedd o emosiynau yn deimlad anghyffredin, oherwydd bydd dy gorff yn wynebu llawer o newidiadau.

Gall yr arwyddion o fod yn feichiog gynnwys:

  • Teimlo'n flinedig
  • Bronnau chwyddedig neu ddolurus
  • Methu misglwyf
  • Misglwyf byrrach ac ysgafnach nag arfer
  • Newidiadau mewn chwant bwyd a cholli blas ar rai bwydydd
  • Cyfog neu chwydu (gelwir hyn yn 'salwch bore', ond gall ddigwydd yn ystod unrhyw ran o'r diwrnod)
  • Teimlo'n chwyddedig
  • Crampiau tebyg i fisglwyf
  • Piso'n rheolaidd
  • Hwyliau'n newid

Os bydd canlyniadau'r prawf beichiogrwydd yn bositif, siarad ' dy bartner neu dy deulu, yn ogystal â dy feddyg teulu, i gael cyngor a chefnogaeth a gwybod beth yw'r cam nesaf. Os nad wyt yn teimlo dy fod yn gallu siarad â dy bartner neu dy deulu, cofia siarad â rhywun. Mae'n benderfyniad enfawr a wnaiff newid dy fywyd, a bydd angen cefnogaeth arnat i wneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd.

Gofal cyn-geni

Yn ystod dy feichiogrwydd, fe gei sawl prawf a sgan i gadw golwg ar y baban.

  • Bydd dy archwiliad cyn-geni cyntaf ymhen wyth neu ddeuddeg wythnos ac efallai y cei gynnig sgan uwchsain i weld dy faban am y tro cyntaf
  • Mae gennyt hawl cyfreithiol i gael amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl i gael archwiliadau cyn-geni
  • Yna, bydd rhaid i ti gael cyfres o sganiau trwy gydol dy feichiogrwydd
  • Hola dy feddyg teulu ynghylch ble a phryd bydd dy ofal cyn-geni yn digwydd
  • Cofia - os byddi'n teimlo'n bryderus, hola dy feddyg neu dy fydwraig

Salwch beichiogrwydd

Gall salwch beichiogrwydd neu 'salwch bore' ddigwydd unrhyw bryd yn ystod y dydd a chredir mai hormonau beichiogrwydd sy'n ei achosi.

Bydd fel arfer yn fwy cyffredin yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd, ac fe wnaiff well ymhen amser. Fodd bynnag, bydd ychydig o famau anffodus yn dioddef hyn trwy gydol eu beichiogrwydd. Nid yw'n niweidiol i'r baban.

Mae dulliau o gynorthwyo:

  • Bwyta byrbrydau bychan trwy gydol y dydd yn hytrach na phrydau trwm
  • Paid â gadael i dy stumog fod yn wag
  • Bwyta ychydig o gracers sych pan fyddi'n deffro yn y bore neu yn ystod y nod i atal salwch
  • Mae ffrwythau a bwydydd sawrus yn achosi llai o gyfog
  • Ceisia fwyta sinsir, y gwyddys ei fod yn lleihau salwch yn ystod beichiogrwydd. Gelli yfed te sinsir neu fwyta bisgedi sinsir
  • Bwyta pan fydd chwant bwyd arnat (o fewn rheswm)

Os bydd dy salwch yn ddifrifol neu'n effeithio ar dy iechyd mewn unrhyw ffordd, siarada â dy feddyg teulu.

Marciau ymestyn

Gall marciau ymestyn ymddangos wedi tua chwe mis ar dy stumog, dy gluniau a dy fronnau wrth i dy gorff newid fel bydd y babi'n tyfu.

  • Byddant yn goch yn y lle cyntaf ac yna byddant yn troi'n lliw llwyd arian ymhen amser
  • Gall lleithio dy groen yn rheolaidd ei gynorthwyo i'w gadw'n hydwyth a lleihau datblygiad marciau ymestyn

Camau beichiogrwydd (neu dymhorau)

Bydd beichiogrwydd arferol yn para 37-42 wythnos (naw mis) a chaiff ei fesur o ddiwrnod cyntaf y misglwyf diwethaf.

Y tymor cyntaf

  • Ymhen chwe wythnos, bydd yr holl brif organau'n ffurfio a bydd y galon yn cychwyn curo. Bydd yr embryo ychydig dros 1cm o hyd
  • Ymhen 12 wythnos, bydd yr embryo wedi troi'n ffoetws a bydd ganddo freichiau, coesau, bysedd, bodiau traed ac wyneb. Bydd tua 76mm o hyd

Yr ail dymor

  • Ymhen 20 wythnos, bydd yr esgyrn yn galed a bydd y fam yn gallu teimlo'r baban yn cicio neu hyd yn oed yn igian
  • Bydd y ffoetws hefyd yn gallu clywed seiniau megis lleisiau
  • Ymhen 24 wythnos, bydd y llygaid yn agored. Gallai baban a enir yn ystod y cam hwn oroesi, ond bydd efallai bydd arno angen cymorth gan feddygon a gallai ddioddef problemau iechyd difrifol

Y trydydd tymor

  • Bydd y ffoetws yn parhau i dyfu ac yn rhoi pwysau. Bydd yr ysgyfaint yn dal i ddatblygu
  • Ymhen 36 wythnos, bydd y baban fel arfer yn mynd i ystum pen i lawr, yn barod i gael ei eni

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50