Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Bod yn Dad



Bod yn Dad

Bod yn dad yw un o’r pethau mwyaf gwerth chweil, ond daw cyfrifoldeb enfawr yn ei sgil.

Yn y gymdeithas sydd ohoni, disgwylir mwy gan dadau nag erioed o’r blaen ac mae eu rolau yn y teulu yn newid.

  • Ychydig ddegawdau yn ôl, prif gyfrifoldeb tadau oedd ennill bara menyn y teulu, ond mae’r oes wedi newid, ac mae rhagor o dadau yn rhannu’r cyfrifoldeb o fagu eu plant a gofalu am y cartref
  • Trwy ymddiddori yn dy blant, byddi'n datblygu cysylltiad cryfach â hwy. Neilltua amser yn ddyddiol i chwarae gyda hwy, darllen gyda'ch gilydd, eu cynorthwyo i wneud eu gwaith cartref neu fynd i nofio, er enghraifft
  • Gall rheoli dy fywyd gwaith ac amser gyda dy deulu fod yn anodd, ond gellir gwneud hynny. Paid â defnyddio dy oriau gwaith fel esgus i beidio treulio amser gyda dy blant – neilltua amser
  • Bydd dy blant yn ystyried mai ti fydd eu delfryd ymddwyn gwrywaidd pwysicaf, a byddant yn copïo dy ymddygiad. Bydda'n barchus ac yn sensitif ac fe wnânt ddilyn dy esiampl

Newid rolau teuluol

Mae rolau teuluol wedi newid dros yr ychydig ddegawdau diwethaf ac nid yw’n anarferol i ferched ddychwelyd i weithio yn rhan amser neu'n amser llawn ar ôl cael plant.

  • Gall oriau gwaith ym Mhrydain fod yn hir ac mae’n bwysig i ti a dy bartner allu canfod cydbwysedd rhwng eich swyddi. Cofia, mae ganddi hithau'r un hawl yn union i weithio
  • Mae’r tad amser llawn yn fath newydd o dad. Er bod hyn yn dal yn weddol anghyffredin, mae sawl tad sy’n dewis aros gartref i ofalu am y plant tra bydd eu partner yn mynd i weithio
  • I gael rhagor o wybodaeth ynghylch beth i'w ddisgwyl fel tad newydd, gweler Bod yn Rhiant - Babanod

Byw ar wahân i dy blant

Yn anffodus, ni fydd pob perthynas yn llwyddo, a bydd sawl tad yn gorfod byw ar wahân i’w plant.

  • Gall hyn fod yn anodd iawn, ond mae’n bwysig i ti a dy deulu roi eich gwahaniaethau o’r neilltu â pharhau i gadw cysylltiad â dy blant
  • Ceisia drefnu ymweliadau ymlaen llaw a chadwa at dy gynlluniau
  • Ni fyddi'n peidio â bod yn dad os na fyddi'n byw gyda dy blant, a bydd yn bwysicach nag erioed i ti fod yn rhiant cariadus a chefnogol iddynt
  • Os wyt yn bwriadu ysgaru, rho fuddiannau'r plant yn gyntaf a cheisia wneud penderfyniad gwirfoddol a theg ynghylch dy fynediad atynt. Paid fyth â thrafod hyn yng ngŵydd dy blant
  • Os wyt yn ddibriod ac rwyt ti a dy bartner wedi gwahanu ac mae genedigaeth dy blentyn wedi’i gofrestru yn dy enw, mae gennyt bellach yr un hawliau cyfreithiol â phartner priod
  • Gall hawl i weld plant fod yn fater o bwys pan fydd cwpwl yn gwahanu. Mae sicrhau penderfyniad teg heb fynd i'r llys yn llesol i bawb, ond os na ellir gwneud penderfyniad o'r fath, mynna gyngor cyfreithiol a bydda'n ymwybodol o dy hawliau

Absenoldeb a thâl tadolaeth

Mae gan dadau hawl i gael hyd at bythefnos o dâl tadolaeth neu hyd at 26 wythnos o dâl tadolaeth ychwanegol os bydd y fam yn penderfynu dychwelyd i weithio.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch yr hawl i gael tâl tadolaeth ar gael yn: https://www.gov.uk/paternity-pay-leave/eligibility

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50