Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle



Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau O'u Lle

Cyfathrebu da yw'r allwedd i bob perthynas llwyddiannus â phobl yn dy fywyd, yn cynnwys dy ffrindiau, teulu, cariad, athrawon, cyflogwyr neu unrhyw un arall y mae’n rhaid i ti ymwneud â hwy.

Mae cyfathrebu da yn golygu egluro dy deimladau'n glir, gwrando ar bobl eraill a derbyn eu safbwyntiau heb ffraeo â hwy.

Y dyddiau hyn, mae sawl dull o gyfathrebu, o siarad â phobl wyneb yn wyneb, defnyddio ffôn symudol i siarad a thecstio, ar-lein gan ddefnyddio e-bost, negeseuon ebrwydd neu rwydweithiau cymdeithasol, neu ddefnyddio gwegamerâu i siarad wyneb yn rhithwir.

Mae’r adran hon yn ystyried ein dulliau gwahanol o gyfathrebu a sut i ymateb os aiff pethau o’u lle, yn cynnwys sut a ble i gael y cyngor a’r wybodaeth y bydd ei angen arnat.

Gall rheoli dy gyfathrebu â phobl yn dy fywyd fod yn anodd weithiau, a bydd camddealltwriaeth a gwrthdaro yn digwydd ym mhob perthynas. Weithiau, ni fyddant yn ddim mwy na chamddealltwriaeth. Ar brydiau, byddant yn arwain at ddadleuon a throeon eraill byddant yn fwy difrifol, megis cael dy fwlio, rhywun yn gwahaniaethu yn dy erbyn neu gamdriniaeth.

Pan aiff pethau o’u lle, mae'n hawdd iawn beio ein hunain, teimlo'n ddigalon, ofnus, pryderus neu ddryslyd, neu geisio canfod rhesymau i gyfiawnhau pam ddigwyddodd.

Y peth pwysicaf i’w gofio, os byddi’n teimlo'n neu'n ofidus neu'n bryderus, yw ceisio’r cymorth a’r cyngor angenrheidiol rhywun yr wyt yn ymddiried ynddo. Gelli hefyd ofyn i sefydliadau proffesiynol sy’n bodoli i dy helpu, dy ddiogelu a dy gefnogi fel na fydd rhaid i ti ddelio â phethau dy hun neu’n dawel.

3 CommentsPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 79 mis yn ôl - 10th March 2010 - 09:31am

Is loving cookie dough a relationship??

Rhoddwyd sylw 63 mis yn ôl - 21st July 2011 - 20:56pm

Great information available!

Rhoddwyd sylw 42 mis yn ôl - 15th April 2013 - 11:00am

i love my boyfriend and i am going out to lunch with him when i see him after 1 week / i loves my boyfrend so much i want to do everythink with my boyfriend

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50