Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Derbyn Gofal



Derbyn Gofal

Weithiau, bydd pethau’n digwydd o fewn teuluoedd sy’n golygu na all plant neu bobl ifanc fyw gyda’u rhieni. Gall hyn ddigwydd oherwydd sawl rheswm yn cynnwys salwch, problemau teuluol, neu dy rieni neu dy deulu yn methu gofalu amdanat yn iawn oherwydd amgylchiadau.

Os bydd hyn yn digwydd i ti, bydd dy gyngor lleol yn gofalu am dy anghenion llety ac addysgol, ac weithiau gall hyn olygu y byddi’n byw gyda’r hyn a elwir yn deulu maeth. Yn dibynnu ar dy amgylchiadau, gall y sawl fydd yn gofalu amdanat fod yn drefniant tymor byr neu dymor hir. Bydd rhywun a elwir yn weithiwr cymdeithasol yn cynorthwyo i sicrhau dy fod yn cael gofal priodol, a dylai dy ddiweddaru ynghylch yr hyn sy'n digwydd.

Pan fyddi yng ngofal y gwasanaethau cymdeithasol, bydd rhaid llunio cynllun gofal i ti. Bydd hyn yn cynnwys ble byddi’n byw a pha mor aml y gelli weld dy rieni os byddi di a dy deulu yn dymuno cadw mewn cysylltiad.

Mae'r gyfraith yn dweud fod rhaid i weithwyr cymdeithasol ystyried dy ddymuniadau a dy deimladau. Mae dy feddyliau a dy safbwyntiau yn cyfrif, felly mae’n bwysig i ti ddweud beth sydd arnat ei eisiau pan fydd dy weithiwr cymdeithasol, dy deulu a'r bobl sy'n gofalu amdanat yn gwneud cynlluniau i'r dyfodol.

Os wyt yn anfodlon â rhai pethau, y peth doethaf yw trafod hynny â dy ofalwyr neu dy weithiwr cymdeithasol, fydd yn gallu datrys pethau fel arfer. Mae sefydliadau hefyd a all ddarparu Gwasanaeth Eirioli i dy gefnogi tra byddi’n derbyn gofal a dy gynorthwyo i ddelio ag unrhyw broblemau posibl. Mae eiriolwr yn weithiwr proffesiynol hyfforddedig, sy’n annibynnol ar y gwasanaethau cymdeithasol, dy ofalwr a dy weithiwr cymdeithasol, a gall siarad ar dy ran os bydd angen hynny.

Mae’r adran hon yn ystyried sut brofiad yw derbyn gofal, y math o ofal sydd ar gael, a'r gefnogaeth y gall fod ei angen arnat tra byddi'n derbyn gofal.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50