Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Gofal plant



Gofal plant

Gall gofal plant fod yn achubiaeth i rieni, pa un ai a fyddant yn dychwelyd i weithio neu’n dymuno cael amser iddynt hwy eu hunain. Yn aml iawn, gall teulu a ffrindiau gynnig y gefnogaeth hon a chynorthwyo â gofal plant.

Mae angen i dy blentyn fod gyda rhywun y gall ymddiried ynddo. Mae sawl dewis ar gael o ran gofal plant, ac mae’n bwysig dewis yr un sy’n iawn i ti a dy blentyn.

Os oes rhaid i ti ofyn i gyflogi rhywun dieithr i ofalu am dy blentyn, cofia gyfweld y gofalwr yn y lle cyntaf a gwna ychydig o ymchwil.

Mae dewis rhywun i ofalu am dy blentyn yn benderfyniad mawr.

Gofalwyr Plant

  • Mae gofalwyr plant yn hunangyflogedig a dylent fod wedi’u cofrestru gyda’r corff cyhoeddus priodol. Byddant yn gofalu am blant yn eu cartref eu hunain yn rheolaidd
  • Caniateir i ofalwr plant ofalu am blant o unrhyw oedran o fabanod i laslanciau, ond mae rheoliadau yn golygu na allant ofalu am fwy na chwech o blant o dan wyth oed ar yr un pryd. O blith y chwech, ni all mwy na thri ohonynt fod dan bump ac ni all mwy nag un ohonynt fod dan flwydd oed (oni bai eu bod yn siblingiaid)
  • Rhaid i bob gofalwr plant cofrestredig gwblhau cwrs cofrestru sylfaenol a chwrs cymorth cyntaf. Mae gan rai NVQs neu gymwysterau tebyg mewn gofal plant

Gwarchodwyr

  • Bydd gwarchodwyr yn gofalu am dy blentyn yn dy gartref, ond nid ydynt wedi’u cofrestru gydag unrhyw gorff cyhoeddus, ac fel arfer, nid oes ganddynt gymwysterau gofal plant
  • Rhaid i warchodwyr fod dros 16 mlwyddyn oed
  • Ni argymhellir defnyddio gwarchodwyr i ofalu am blant dan oed ysgol neu fabanod
  • Gofynna i rieni eraill a allant argymell rhywun sydd â phrofiad

Nanis

  • Bydd nani yn gofalu am blant yn dy gartref. Gallant ddod yno’n ddyddiol neu fod yn nani preswyl, yn aros yn dy gartref
  • Mae gan rai nanis gymwysterau gofal plant, ond ni pob un
  • Fel cyflogwr dy nani, byddi’n talu ei gyflog/chyflog, yn didynnu taliadau treth incwm ac yswiriant gwladol ac yn sicrhau amgylchiadau gwaith da
  • Nid oes rhaid i ti gofrestru na chael dy archwilio i fod yn nani, ond gallant gael cymeradwyaeth trwy Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant gwirfoddol y llywodraeth

Meithrinfeydd dydd/canolfannau gofal dydd

  • Gall meithrinfa ddydd ofalu am dy blentyn am ddiwrnod cyfan, yn llawn amser neu'n rhan amser, a darparu gofal ac addysg
  • Byddant yn derbyn plant hyd at bump oed yn bennaf, ond bydd rhai yn derbyn plant hyd at wyth oed
  • Rhaid cofrestru meithrinfa dydd â chyrff rheoleiddio’r llywodraeth a’i chofrestru’n flynyddol
  • Rhaid i o leiaf hanner y staff fod â chymwysterau ym maes blynyddoedd cynnar a rhaid i rai o'r staff fod yn athrawon cymwys
  • Gall meithrinfeydd dydd fod yn fusnesau annibynnol, cynlluniau cymunedol dielw, darpariaethau yn y gweithle neu gynlluniau dan ofal awdurdodau lleol i deuluoedd y mae angen cymorth arnynt

Ysgol neu ddosbarth meithrin

  • Mae ysgol feithrin yn ysgol annibynnol â’i bennaeth ei hun a staff sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig. Mae wedi’i gofrestru gyda chyrff rheoleiddio’r llywodraeth a chaiff ei archwilio'n flynyddol. Mae hefyd yn cynnig cwricwlwm blynyddoedd cynnar wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth
  • Gall ysgolion meithrin fod yn ysgolion gwladol wedi’u hariannu gan awdurdod addysg lleol y gellir eu mynychu am ddim, darpariaeth cyn ysgol gymunedol ddielw sy’n codi ffi, neu ysgolion meithrin preifat annibynnol sy'n codi ffi
  • Mae dosbarth meithrin yn ddosbarth cyn ysgol sy’n gysylltiedig ag ysgol, a chaiff ei staffio gan bennaeth a nyrsys ac athrawon hyfforddedig sydd hefyd yn rhan o’r brif ysgol
  • Mae’n cynnig cwricwlwm blynyddoedd cynnar wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth
  • Mae dosbarthiadau meithrin gwladol am ddim, ond mae dosbarthiadau meithrin sy'n gysylltiedig ag ysgolion preifat yn codi ffi
  • Mae ysgolion a dosbarthiadau meithrin yn derbyn plant hyd at bump oed

Grwpiau cyn ysgol a chylchoedd chwarae

  • Yn aml iawn, caiff y grwpiau dielw hyn eu rhedeg gan bwyllgorau rheoli rhieni i ddarparu cyfnodau byr o ofal i blant am ffi
  • Bydd y mwyafrif yn agor am ddwy neu dair awr, ond bydd rhai yn ymestyn i ddiwrnod llawn
  • Dylai pob grŵp cyn-ysgol a chylch chwarae fod wedi’u cofrestru gyda'r llywodraeth a dylid eu harolygu'n flynyddol
  • Maent yn cynnig y dewis i rieni i aros gyda’u plant a chyfranogi mewn gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar chwarae a dysgu
  • Bydd y rhan fwyaf o grwpiau cyn-ysgol yn derbyn plant 2-4 oed, ond fe wnaiff rhai ohonynt ofalu am blant iau hefyd

Cynlluniau cyn ac ar ôl oriau ysgol

  • Efallai na fydd dy angen am ofal plant yn dod i ben pan fyddant yn cychwyn yr ysgol, felly mae cynlluniau a redir y tu allan i oriau ysgol i gynorthwyo
  • Gan amlaf, caiff clybiau neu gynlluniau ar ôl ysgol, megis chwaraeon neu ddrama, eu rhedeg tan 6 yr hwyr i gynnig darpariaeth yn ystod oriau swyddfa arferol
  • Mae clybiau brecwast yn caniatáu i ti fynd â dy blentyn yn gynnar i’r ysgol ble gall fwynhau brecwast gyda’i ffrindiau
  • Mae cynlluniau chwarae haf ar gael yn ystod gwyliau'r haf hefyd
  • Gofynna i’r ysgol am amserlen o weithgareddau y tu allan i oriau ysgol
  • Yn dibynnu ar dy sefyllfa, efallai fod gennyt hawl i dalu llai o dreth incwm, cael budd-daliadau ychwanegol neu ofal plant am ddim os wyt ar incwm isel. Hola Cyllid a Thollau ei Mawrhydi am ragor o wybodaeth ynghylch y Credyd Treth Gwaith

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50