Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfeillgarwch
Yn yr Adran Hon
Cyfeillgarwch
Mae cyfeillgarwch yn fath arbennig iawn o berthynas a all bara am oes.
Mae ffrindiau yn bobl y byddi’n treulio amser yn eu cwmni, yn cael hwyl gyda hwy, ac yn ymddiried ynddynt. Maent yn bobl y doi i’w hadnabod, i’w hoffi ac i ymddiried ynddynt, a gallant fod ar gael i dy gynorthwyo a dy gefnogi pan fydd angen hynny arnat. Fe wnânt wrando arnat a chynnig cyngor da i ti - hyd yn oed os na fyddi’n dymuno clywed hynny ar brydiau!
Bydd ffrind go iawn yn dy werthfawrogi ac yn dy dderbyn fel yr wyt, ac ni wnaiff dy fwlio na rhoi pwysau arnat i wneud pethau nad wyt yn fodlon eu gwneud.
Mae’n arferol i ffrindiau ddadlau weithiau, ac nid yw bod yn ffrindiau yn golygu na allwch anghytuno ynghylch rhywbeth. Mae pob cyfeillgarwch da yn seiliedig ar barch a bod yn onest â’r naill a’r llall.
Mae pawb yn wahanol ac mae ar rai pobl eisiau mwy o ffrindiau nag eraill. Mae gan rai pobl gylchoedd mawr o ffrindiau, ac mae gan eraill un neu ddau o ffrindiau agos yn unig. Mae’n well gan rai pobl gael ychydig o ffrindiau a threulio llawer o’u hamser eu hunain neu gyda’u teulu, ac mae hynny’n dderbyniol hefyd.
Mae'n haws i rai pobl wneud ffrindiau nag eraill, ac os yw hynny'n anodd i ti, ceisia siarad â gwahanol bobl nes byddi'n canfod rhywun sydd â phethau'n gyffredin â thi.
Os byddi’n cychwyn mewn ysgol newydd, swydd neu brifysgol, paid â phoeni am fod heb neb i dreulio amser yn ei gwmni. Fe wnei di ffrindiau newydd yn fuan, a bydd yr hen ffrindiau yn dal ar gael i ti. Os na elli weld dy ffrindiau mor aml ag y buaset yn dymuno, gallwch gadw mewn cysylltiad â’ch gilydd trwy ffonio, tecstio neu e-bostio.
Ceisia wneud ffrindiau newydd ble bynnag yr ei di – maent yn hwyl a gallant wneud i ti chwerthin, a chyflwyno pethau a diddordebau newydd i ti – byddi bob amser yn dysgu rhywbeth gwahanol yn sgil pob cyfeillgarwch sydd gennyt.
1 Comment – Postiwch sylw
National Editor
Rhoddwyd sylw 82 mis yn ôl - 12th December 2009 - 16:39pm
Hi shivonnelouisewilliams,
Try contacting Parentline Plus who are listed just above, who will be able to give you good advice on your pregnancy and how to tell your boyfriend.
Or, if you'd like to confide in someone your own age, try Youth2Youth:
http://cliconline.co.uk/en/organisations/youth2youth/00189.html