Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Bod yn Fam



Bod yn Fam

Mae'n debyg mai bod yn fam fydd un o'r pethau mwyaf gwerth chweil a wnei di yn dy fywyd, ond bydd yn un o'r anoddaf hefyd.

Mae’r gymdeithas sydd ohoni yn disgwyl mwy gan ferched nag erioed o’r blaen a’r her sy’n wynebu sawl mam yw cydbwyso eu rôl fel rhiant â bywyd sydd eisoes yn brysur.

  • Bydd sawl mam yn dewis dychwelyd i weithio, naill ai'n amser llawn neu’n rhan amser, ar ôl cael babi. Gallai hyn ddigwydd oherwydd rhesymau ariannol neu bersonol, ac mae'n gyffredin iawn ymhlith mamau modern
  • Bydd mamau eraill yn dewis cael egwyl o’u gyrfa er mwyn neilltuo eu hamser i'r gwaith o fagu eu plant
  • Nid yw bod yn fam sy’n gweithio yn rhywbeth i fod cywilydd ohono, ac ni wnaiff dy wneud yn fam wael mewn unrhyw ffordd. Cyn belled ag y byddi’n treulio amser o ansawdd uchel gyda dy blentyn pan na fyddi’n gweithio, ni wnaiff hyn effeithio arnynt
  • Os wyt yn fam â phlentyn dan chwech oed, mae gennyt hawl i ofyn am gael gweithio’n hyblyg
  • I gael gwybodaeth am dy hawliau mamolaeth, gweler Bod yn Rhiant - Arian
  • Mae gan bob menyw hawl i ddychwelyd i weithio wedi 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth cyffredin
  • Wedi 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth cyffredin, ni fydd rhaid i ti roi rhybudd i dy gyflogwr dy fod yn bwriadu dychwelyd i weithio, gelli fynd i’r gwaith ar y diwrnod y dylet ddychwelyd i weithio
  • Mae penderfynu dychwelyd i weithio neu beidio yn ddewis personol ac nid oes dewis cywir nac anghywir. Trafoda’r mater â dy bartner a gwna benderfyniad sy’n iawn i ti a dy deulu

Bod yn fam sengl

Yn anffodus, ni fydd pob perthynas yn llwyddo a bydd rhai mamau yn gorfod magu eu plentyn eu hunain.

  • Yn ogystal â’r straen emosiynol a achosir gan hyn, gall hefyd fod yn anodd yn ariannol. Gall Cyngor ar Bopeth roi manylion hawliau ariannol rhieni sengl i ti
  • Fel rhiant sengl, mae’n bwysig gallu datblygu rhwydwaith cefnogol cryf, yn cynnwys teulu a ffrindiau a all gynnig cymorth i ti pan fydd angen hynny arnat
  • Mae bod yn rhiant sengl yn golygu y bydd angen cymorth ychwanegol arnat â phethau megis gofal plant, gweithio hyblyg ac arian. Paid â bod yn rhy falch i ofyn am gymorth. Os na elli ganfod rhwydwaith cefnogol o fewn dy deulu, mae grwpiau ar gael a all helpu.

1 CommentPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 48 mis yn ôl - 3rd October 2012 - 14:03pm

Being bullied? Feel unsafe where you live? Concerned about family or friends, or even yourself? Whatever you're worried about, get help with online mentoring at bulliesout.com... No issue is too big or too small, but if you're worried about it, talk about it....

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50