Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Dod Yn Rhiant » Babanod
Yn yr Adran Hon
Babanod
Gall dod yn rhiant am y tro cyntaf fod yn brofiad brawychus a chyffrous.
Mae’n golygu newid ffordd o fyw yn llwyr a chyfrifoldeb newydd.
Gall mamau newydd yn enwedig wynebu ansefydlogrwydd emosiynol yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf wedi’r enedigaeth oherwydd amherir ar eu patrymau cysgu a bydd eu hormonau yn dal yn sefydlogi wedi'r beichiogrwydd. Mae hyn yn hollol arferol.
Ceisia gael cymaint o help ag y gelli gan bobl eraill, yn cynnwys dy bartner, dy deulu a dy ffrindiau, neu dy weithiwr gofal iechyd.
Yr enedigaeth
- Gall geni plentyn fod yn brofiad emosiynol, blinedig, a brawychus ar brydiau, ond gall cael cwmni rhywun fod o gymorth i ti
- Gallet ofyn i dy bartner, rhiant neu ffrind, ynghyd â'r gweithwyr meddygol proffesiynol, dy gynorthwyo i ymdopi â hyn
- Gelli ddewis geni plentyn mewn uned mamolaeth mewn ysbyty, canolfan geni neu hyd yn oed gartref, ond gwranda ar gyngor dy feddyg cyn penderfynu beth yw'r dewis gorau o ran dy iechyd di ac iechyd y baban
- Bydd esgor ar blentyn yn cychwyn fel ymateb hormonaidd a gaiff ei sbarduno gan y baban, sy’n gwneud i’r groth gychwyn cyfangu i agor gwddf y groth fel gall y baban basio trwyddo. Gelwir y rhain yn gyfangiadau
- Gall eich dŵr dorri pan fydd y cyfangiadau’n cychwyn neu’n ddiweddarach
- Wrth i'r cyfangiadau ddod yn nes ac yn nes at ei gilydd a phara'n hirach, bydd ceg y groth yn agor yn lletach ac yn lletach
- Pan fydd yn ddigon llydan a phan fyddi'n hollol agored (10cm), bydd pen y baban yn cychwyn mynd i lawr at geg y groth
- Yna, byddi’n teimlo awydd cryf i wthio. Os byddi wedi cael epidwral, efallai na wnei deimlo’r awydd hwn a bydd y fydwraig yn dy gynghori pryd i wthio
- Weithiau, bydd y fydwraig yn gofyn i ti beidio gwthio ac anadlu pan fydd arnat awydd gwneud hynny. Pwrpas hyn yw atal y baban rhag dod allan yn rhy gyflym a dy rwygo
- Bydd pen y baban yn ymddangos yn gyntaf, a genir gweddill y baban ymhen ychydig yn rhagor o gyfangiadau
- Bydd dal dy faban am y tro cyntaf yn brofiad bythgofiadwy, felly cofia edrych ymlaen at hynny
Cofrestru’r enedigaeth
Rhaid i ti gofrestru’r enedigaeth ac enw'r baban o fewn 42 diwrnod wedi’r enedigaeth, yn swyddfa leol y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau.
Beth i’w ddisgwyl fel mam newydd
Gall dysgu bod yn fam fod yn brofiad anodd, felly paid â bod yn rhy galed arnat ti dy hun, nid oes neb yn berffaith. Bydd y baban yn hawlio’r rhan fwyaf o dy amser, felly cofia gael cefnogaeth dy bartner a dy deulu.
- Nid oes neb yn disgwyl i ti wybod beth i’w wneud yn syth, nid oes neb yn gwybod hynny – mae angen ymarfer er mwyn bod yn fam
- Bydd bydwraig yn ymweld â thi gartref o fewn deg diwrnod wedi’r enedigaeth, ac wedi hynny, fe gei o leiaf un ymweliad gan ymwelydd iechyd. Wedi hynny, gelli weld y gweithiwr iechyd yn y clinig babanod neu gelli ffonio’r gweithiwr. Maent ar gael i dy gynorthwyo felly paid ag ofni gofyn unrhyw gwestiynau iddynt. Nid dy feirniadu yw eu gwaith
- Efallai na fydd dy faban yn cysgu’n dda yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, felly bydd cysgu pan fydd y baban yn cysgu yn syniad da, os gellir gwneud hynny, neu gofynna i dy bartner neu berthynas y gelli ymddiried ynddo i wylio’r baban tra byddi’n gorffwys
- Bydd ffrindiau a theulu’n dymuno dod i weld y baban, ond paid â theimlo fod rhaid i ti dderbyn pob ymwelydd. Os byddai’n well gennyt i bobl beidio galw heibio, dyweda hynny a gwna drefniadau ar adegau sy’n gyfleus i ti. Hefyd, paid ag ofni dweud dy fod yn rhy flinedig i groesawu ymwelwyr
Bwydo o’r fron
Dy ddewis di a neb arall yw bwydo dy faban o’r fron neu â photel.
Llaeth y fron yw'r dewis naturiol cyntaf i'r baban oherwydd mae'n cynnwys yr holl faetholion y bydd ar y baban ei angen am y chwe mis cyntaf ac mae ganddo nifer o fanteision i ti a’r baban, yn cynnwys:
- Gwrthgorffynnau sy’n helpu i ddiogelu rhag heintiau - y gwrthgorffynnau y byddi'n eu cynhyrchu mewn ymateb i'r germau fydd yn ymddangos yn dy laeth
- Bydd bwydo o’r fron yn cynorthwyo i symud cronfeydd braster a bydd hyn yn dy gynorthwyo i golli pwysau wedi’r enedigaeth
- Gall bwydo o’r fron helpu i gyfangu’r groth wedi’r enedigaeth
- Dengys ymchwil fod cyflyrau megis ecsema, asthma a chlefyd siwgr yn llai o berygl i fabanod a fwydir o’r fron
- Mae llaeth o'r fron yn gyfleus - nid oes rhaid ei baratoi, ac mae am ddim! Bydd llaeth o’r fron bob amser ar y tymheredd iawn
- Gall dy fydwraig neu dy weithiwr iechyd dy helpu hefyd i gychwyn bwydo o’r fron o ddiwrnod cyntaf y baban ymlaen. Fe wnânt hefyd dy helpu i wynebu unrhyw broblemau
- Efallai bydd angen amser i berffeithio hyn, ond gyda'ch gilydd, fe elli di a dy faban lwyddo i feistroli hyn
Weithiau ni fydd rhai mamau’n gallu bwydo’u baban o’r fron neu byddant yn dewis peidio, a byddant yn defnyddio fformiwla llaeth wedi’i gyfoethogi â maetholion a fwydir â photel.
- Mae bwydo â photel yn llai cyfleus na bwydo o’r fron oherwydd bydd angen amser i’w gynhesu i'r tymheredd iawn a bydd angen diheintio'r offer bob tro
- Paid fyth â rhoi llaeth buwch, llaeth gafr, llaeth cyddwysedig, llaeth wedi'i sychu na llaeth anweddog i faban sydd dan 12 mis oed
- Gelli gychwyn rhoi bwyd solet i dy faban pan fydd rhwng pedwar a chwe mis oed, ond bydd bob baban yn wahanol
- Os wyt yn bryderus ynghylch bwydo dy faban, gofynna i dy fydwraig neu dy weithiwr gofal iechyd am gyngor
Iselder ar ôl y geni
Bydd y rhan fwyaf o famau newydd yn dioddef gan y felan rywbryd wedi’r enedigaeth. Cysylltir hyn fel arfer â diffyg cwsg a hyrddiau hormonau. Efallai byddi’n teimlo'n ddagreuol ac emosiynol ac mae hyn yn hollol arferol yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf wedi’r enedigaeth.
Fodd bynnag, os bydd y 'felan' yn parhau, efallai y byddi'n dioddef gan iselder ar ôl y geni.
Mae symptomau’n cynnwys:
- Teimlo'n analluog o fod yn fam
- Byddi’n teimlo fod rhaid i ti roi golwg dewr arni o flaen pobl eraill
- Byddi’n ddagreuol heb unrhyw reswm amlwg, yn rheolaidd iawn
- Bydd awydd cysgu arnat, ond waeth faint o gwsg a gei di, ni fyddi’n teimlo dy fod wedi adfywio yn y bore
- Weithiau, bydd yn anodd i ti fynd i gysgu
- Byddi’n colli synnwyr o amser – ni fyddi’n gallu gweld gwahaniaeth rhwng deng munud a dwy awr
- Bydd yn anodd i ti allu gweld ochr ddoniol dy fywyd neu byddi'n colli dy synnwyr digrifwch
Os wyt yn credu dy fod ti neu dy bartner yn dioddef gan iselder ar ôl y geni, siarada â dy fydwraig neu dy feddyg teulu.
Beth i’w ddisgwyl fel tad newydd
Mae dod yn dad yn gam pwysig ym mywyd unrhyw ddyn a gall fod yn anodd ymdopi â’r rôl hon.
- Bydd tadau newydd yn teimlo nad ydynt yn rhan o fywyd y babi ar y dechrau
- Efallai bydd y fam yn bwydo o’r fron ac efallai byddi’n teimlo ei bod hi'n agosach at y baban na thi
- Os wyt yn dymuno creu cysylltiad cryfach, cyfranoga. Treuliau amser yn dal ac yn siarad â'r baban, rho fath iddo/iddi a newidia'r cewynnau. Bydd yn gyfle da i’r fam orffwys hefyd
- Bydda’n gefnogol o'r fam a chofia ddweud wrthi ei bod yn gwneud gwaith da. Ceisia wneud cymaint ag y gelli o’r gwaith tŷ, y coginio a’r siopa. Gofynna am gymaint ag y gelli o amser i ffwrdd o'r gwaith hefyd. Cofia, byddwch yn magu’r baban fel tîm, felly cofia fod ar gael iddi gymaint ag y gelli
Iechyd dy faban
Bydd y rhan fwyaf o fabanod yn dioddef gan fân annwyd yn ystod eu ychydig fisoedd cyntaf, ac ni fydd hyn yn destun pryder fel arfer.
Fodd bynnag, os bydd dy faban yn dioddef gan unrhyw un o’r symptomau canlynol, ffonia feddyg yn syth:
- Nid oes awydd bwyd arno - llai na hanner ei gymeriant arferol yn y 24 diwethaf
- Mae'n chwydu'n gyson
- Bydd y baban yn cychwyn anadlu’n gyflym, yn enwedig os yw’n swnllyd neu bydd hyn yn digwydd yn ddirybudd
- Cafwyd llai na phedwar cewyn brwnt mewn 24 awr
- Mae hwyliau drwg arno
- Mae gwaed yn y baw neu’r piso
- Mae’r baban yn crio'n anarferol o barhaus
- Mae’n llesg neu'n llipa
- Mae ganddo frech ar y croen
Marwolaeth yn y crud
Ystyr marwolaeth yn y crud yw marwolaeth annisgwyl a diesboniad baban heb unrhyw reswm.
Bydd y rhan fwyaf o farwolaethau yn y cryd yn digwydd pan fydd y baban dan chwe mis oed, ac nid oes unrhyw un achos wedi’i ganfod.
Nid oes unrhyw ffordd o atal marwolaeth yn y crud, ond gelli leihau’r peryglon trwy:
- Roi dy faban i gysgu ar ei gefn
- Peidio ysmygu yn ystod y beichiogrwydd (ni ddylai'r un o'r ddau riant wneud hyn)
- Peidio gadael i bobl ysmygu yn yr un ystafell â dy faban
- Peidio gadael i dy faban fod yn rhy boeth
- Sicrhau fod pen dy faban wedi'i orchuddio. Dylai ei draed fod wrth droed y crud i’w atal rhag symud o dan y cwrlidau
- Peidio mynd i gysgu gyda dy faban ar y soffa
- Peidio rhannu dy wely â dy faban os byddi di neu dy bartner yn ysmygu, os byddi wedi bod yn yfed alcohol, os byddi’n cymryd moddion neu gyffuriau sy’n achosi syrthni neu os byddi wedi gorflino
- Rhoi crud dy faban yn dy ystafell wely am y chwe mis cyntaf
- Bydd saith marwolaeth yn y crud ym Mhrydain bob wythnos. Dyma achos pennaf marwolaethau babanod sy’n iau na mis oed. Hola dy feddyg teulu am ragor o wybodaeth
Imiwneiddio
Imiwneiddio yw’r dull diogelaf o ddiogelu dy faban rhag afiechydon heintus difrifol a all fygwth bywyd mewn rhai achosion.
Bydd babanod yn cael cyfres o bigiadau rheolaidd yn ystod eu blwyddyn gyntaf a phigiadau ychwanegol pan fyddant yn 3-4 oed. Yn ddiweddarach, pan fydd dy blentyn yn 12-18 oed, bydd cyfres arall o bigiadau a wnaiff ddiogelu dy blentyn.
Mae rhestr lawn o imiwneiddiadau a manylion y nifer o bigiadau sy’n angenrheidiol a’r oedran pryd ddylid eu rhoi ar gael yn: http://www.nhs.uk/Conditions/vaccinations/
Mae pob imiwneiddiad am ddim. Hola dy feddyg teulu os oes gennyt unrhyw bryderon neu os wyt yn dymuno cael cyngor.