Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Pan Aiff Pethau Ou Lle



Pan Aiff Pethau O’u Lle

Un peth sy’n sicr yw’r ffaith y gwnaiff pethau fynd o’u lle o bryd i’w gilydd.

Gall perthnasau newid yn ddisymwth gan achosi gwrthdaro ym mhob perthynas. Weithiau, dim ond ffraeo neu gamddealltwriaeth fydd hyn, ond ar brydiau gallant fod yn fwy difrifol, megis rhywun yn cael eu bwlio, gwahaniaethu yn eu herbyn, neu mewn achosion eithafol, cael eu cam-drin.

Pa un ai a fydd sefyllfa yn dy fywyd wedi mynd o’i lle neu os byddi’n gwrthdaro â rhywun, yr ymateb naturiol yw meddwl tybed a wyt ar fai am yr hyn sydd wedi digwydd neu geisio canfod rhesymau i gyfiawnhau pan ddigwyddodd.

Mae teimlo'n ofnus, pryderus a dryslyd hefyd yn ymateb hollol naturiol.

Pan fyddwch yn teimlo fel hyn, bydd yn anodd canfod atebion, gall y sefyllfa deimlo'n llethol ac anobeithiol, ond ni wnaiff deimlo felly am byth.

Y peth pwysicaf i’w gofio os byddi’n teimlo’n bryderus am y sefyllfa y byddi’n ei hwynebu yw siarad â rhannu dy bryderon â rhywun rwyt yn ymddiried ynddo i gael y cymorth a’r cyngor angenrheidiol. Bydd dulliau o ddatrys y problemau rwyt yn eu hwynebu ar gael born iawn bob amser, ac efallai na fyddi’n teimlo felly ar y pryd, ond pan fyddi’n teimlo'n well ac yn gryfach, efallai byddi'n gallu canfod dulliau o wella’r sefyllfa.

Neu, os bydd well gennyt hynny, gelli fynd at sefydliadau proffesiynol sy'n bodoli i dy gynorthwyo, dy ddiogelu a dy gefnogi, fel nad oes rhaid i ti ddelio â dy broblemau ar dy ben dy hun neu mewn tawelwch.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50