Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Trais Yn Y Cartref
Yn yr Adran Hon
Trais yn y Cartref
Mae trais yn y cartref yn fath o gamdriniaeth. Mae’n ymddygiad ymosodgar ac afreolus sy’n digwydd yn y cartref, o fewn y teulu neu o fewn perthnasau.
Gall dynion, menywod a phlant ddioddef trais yn y cartref, ond bydd yn effeithio 1 o bob pedair menyw bob blwyddyn. Hysbysir yr heddlu am un digwyddiad o drais yn y cartref bob munud.
Mathau o drais yn y cartref
- Cam-drin corfforol megis dyrnu, taro, gwthio, cicio, tynnu gwallt ayyb
- Cam-drin emosiynol megis bygythiadau, dychrynu seicolegol, creulondeb, eiddigedd gormodol ac ymddygiad awdurdodol megis peidio gadael i ti weld dy ffrindiau neu adael y tŷ, rheoli dy fywyd, dy fychanu a dy feirniadu’n rheolaidd, galw enwau neu fathau eraill o ddychrynu
- Gorfodi rhywun i gael cyfathrach rywiol neu berfformio gweithred rywiol
- Atal dy arian neu gymryd dy arian a pheidio’i ddychwelyd
Mae bob math o drais yn y cartref yn drosedd, ac mae hyn hefyd yn wir yn achos dioddefwyr sydd dan 18 oed. Mae gennyt hawl i gael dy ddiogelu rhag hyn, felly chwilia am help yn syth.
Ceisio cymorth
- Mae bod yn ddioddefydd yn dy gartref dy hun neu ddioddef oherwydd rhywun sy’n annwyl i ti yn brofiad trawmatig. Bydd llawer o bobl yn teimlo cywilydd, wedi’i bychanu ac yn unig, ond ni wnaiff dynion a merched treisgar newid heb help. Os yw dy fywyd di a bywyd unrhyw blant mewn perygl, rhaid i ti weithredu cyn y bydd yn rhy hwyr
- Gall gadael fod yn anodd fell ceisia gymorth pobl eraill. Dywed wrth dy rieni, ffrind y gelli ymddiried ynddo/ynddi neu hyd yn oed yr heddlu beth wyt yn bwriadu ei wneud i gael cymorth. Sicrha y bydd rhywun gyda thi i dy amddiffyn pan fyddi'n gadael
- Hefyd, bydd angen i ti ganfod lle diogel i fynd iddo. Gelli fynd i gartref dy rieni neu dy ffrind, ond os wyt yn poeni y gall dy bartner dy ganfod yno, mae sefydliadau a all gynnig llety cyfrinachol a diogel i ti ac unrhyw blant sydd gennyt, megis llochesi i ferched
- Mae nifer o sefydliadau sydd wedi ymroddi i gefnogi dioddefwyr trais yn y cartref megis Cymorth i Ferched, a all gynnig cyngor a chefnogaeth cyn ac ar ôl i ti adael. Maent ar gael i unrhyw ddioddefydd, nid merched yn unig
- Os byddi’n dyst i drais yn y cartref, efallai yn ymwneud â dy rieni neu dy warcheidwaid, gall beri gofid a dryswch. Os wyt mewn tŷ ble mae trais yn y cartref yn digwydd, siarada â rhywun. Gall fod yn ffrind neu aelod o’r teulu sydd ddim yn byw gyda thi, ond paid â cheisio wynebu hyn dy hun. Os nad wyt yn dymuno siarad â rhywun rwyt yn ei nabod, mae llinellau cymorth a all gynnig cyngor ynghylch sut i gynorthwyo i stopio’r trais a chael cymorth i’r dioddefydd
Os wyt ti neu rywun rwyt yn ei nabod mewn perygl uniongyrchol o drais yn y cartref, ffonia 999 i siarad â'r heddlu neu ffonia dy swyddfa heddlu leol a gofyn am yr uned cymorth trais yn y cartref.
1 Comment – Postiwch sylw
Rhoddwyd sylw 81 mis yn ôl - 6th January 2010 - 04:35am
All of our services at Cardiff Women's Aid are available for women in same-sex relationships. We're one of the only organisations in Wales whose entire staff team have had specific training on domestic violence within LGBT relationships.
All of our services are private and confidential under the data protection act.
If you are aged 11-25 you are entitled to 1-to-1 information and advice sessions from our specialist youth worker, and these may be able to take place within a community building near you, ie. youth cntre, community centre, school etc.
Please contact us for an informal chat if you have any concerns that you may be experiencing, abuse, violence and/or control within your relationship.