Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Rhwydweithio Cymdeithasol
Yn yr Adran Hon
Rhwydweithio Cymdeithasol
Gall y Rhyngrwyd fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau sy’n rhannu diddordebau tebyg.
Mae cyfathrebu ar-lein yn haws i rai pobl oherwydd nid yw wyneb yn wyneb. Gallant fod yn agored ac onest heb ofni cael eu beirniadu, felly gall cyfeillgarwch ddatblygu'n rhwydd ar-lein.
Fodd bynnag, efallai na fydd pawb y byddi'n siarad â hwy yn dweud y gwir, ac mae angen i ti fod yn ofalus pan fyddi'n siarad ar-lein.
- Mae nifer o fechan o bedoffiliaid (troseddwyr rhyw sy'n cam-drin plant) yn smalio bod yn bobl ifanc mewn ystafelloedd sgwrsio er mwyn meithrin perthynas fel y gallant gam-drin pobl ’fanc yn rhywiol. Fel arfer, bydd y bobl hyn yn smalio bod yn berson ifanc sydd â diddordebau tebyg i chi, er mai dynion yn eu hoed a'u hamser ydynt fel arfer, i geisio perswadio’r sawl y maent yn ceisio dod yn gyfaill iddo i gwrdd â hwy
- Yn y tair blynedd diwethaf yn unig, mae 25 o bobl ifanc (22 eneth a thri bachgen) wedi dweud eu bod wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan bobl y maent wedi cwrdd â hwy ar ôl sgwrsio ar y Rhyngrwyd. Gallai'r ffigwr hwn fod yn uwch, oherwydd ni fydd rhai pobl ifanc yn rhoi gwybod am y digwyddiad, oherwydd eu bod yn teimlo'n chwithig neu'n bryderus
- Os bydd rhywun yn dangos unrhyw ddeunydd amlwg rywiol i ti ar y Rhyngrwyd neu os bydd rhywun yn siarad yn amhriodol â thi, dylet ddweud wrth dy rieni a chysylltu â'r heddlu. Paid â theimlo chwithdod. Ni fyddi di ar fai ac ni fyddi mewn unrhyw helbul. Mae dulliau o ddiogelu dy hun wrth siarad â phobl ar-lein
- Paid fyth â rhannu dy rif ffôn neu symudol, dy gyfeiriad cartref neu enw dy ysgol â neb, o dan unrhyw amgylchiadau
- Ceisia beidio defnyddio ystafelloedd sgwrsio preifat ble byddi’n sgwrsio ag unigolyn yn unig. Wrth aros o fewn y brif ystafell sgwrsio gyhoeddus, gall eraill weld dy sgwrs a byddi’n fwy diogel
- Cofia, pobl ddieithr yw’r sawl wyt yn siarad â hwy ar-lein, waeth pa mor aml y byddi'n siarad â hwy, felly paid â rhannu gormod o fanylion personol
- Os byddi’n penderfynu cwrdd wyneb yn wyneb â ffrind ar-lein, PAID BYTH Â MYND DY HUN. Cofia fynd ag oedolyn gyda thi er mwyn dy ddiogelwch, hyd yn oed os na fyddi’n bryderus. Paid â theimlo'n chwithig wrth geisio diogelu dy hun - os yw dy ffrind newydd yn ddilys, ni fydd wahaniaeth ganddo/ganddi. Cofia, bydd y person hwn yn dal yn ddieithryn i ti, felly cadwa’n ddiogel bob amser.
- Nid oes wahaniaeth faint yw dy oed ti, fe allet fod mewn perygl, felly cofia fynd â rhywun gyda thi BOB AMSER
Canlyn ar-lein
Mae canlyn ar-lein wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar, a gall fod yn ffordd dda o gwrdd â darpar bartneriaid, yn enwedig os wyt yn swil neu’n brysur iawn. Cofia, hyd yn oed os byddi’n cwrdd â rhywun trwy asiantaeth ar-lein, bydd yn dal yn ddieithryn a rhaid i ti ystyried dy ddiogelwch dy hun bob amser.
Mae nifer o ragofalon y gelli eu cymryd cyn cwrdd â rhywun:
- COFIA FYND Â RHYWUN GYDA THI BOB AMSER. Gallant wylio o bell i sicrhau dy fod yn ddiogel a hapus
- Cofia gwrdd mewn lle cyhoeddus, megis bwyty neu ali fowlio, er enghraifft. Paid fyth â chwrdd yn nhŷ rhywun na gadael iddyn dy gasglu o dy dŷ di
- Paid fyth â rhoi dy gyfeiriad cartref neu dy rif symudol iddynt
- Cofia ddweud wrth eraill ble byddi’n mynd a phryd byddi’n disgwyl dychwelyd
- Atgoffa pobl o dy rif symudol cyn i ti adael
- Gall y Rhyngrwyd fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, ond cofia y bydd pobl yn smalio bod yn rhywun arall ar brydiau, felly cadwa'n ddiogel ar-lein