Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Tecstio



Tecstio

Mae'n gyffredin iawn y dyddiau hyn i bobl fod yn berchen ar ffôn symudol a gallu tecstio'i gilydd. Mae tecstio yn ffordd gyflym a syml o gyfathrebu sy’n llawer rhatach na siarad dros y ffôn.

Pan ddyfeisiwyd tecstio yn y lle cyntaf, codid tâl ar bob am bob neges testun a anfonid ganddynt, ac roedd cyfyngiad ar nifer y geiriau y gellid eu hanfon ym mhob neges. Roedd cwtogi geiriau yn ddull o ddweud llawer iawn mewn llai o eiriau ac arbed arian ac amser - cyfeirir at hyn fel ‘iaith tecstio’. Y dyddiau hyn, mae cwmnïau yn cynnig gwahanol gynigion o ran ffônau, cytundebau talu wrth ddefnyddio a thaliadau misol, ac mae rhai yn cynnig negeseuon testun am ddim fel na fydd rhaid i ti dalu am nifer y negeseuon y byddi’n eu hanfon.

  • Mae tecstio yn ddefnyddiol iawn i adael i bobl wybod ble'r wyt ti a beth wyt yn wneud. Gallai hynny gynnwys trefnu i gwrdd â dy ffrindiau neu neges i hysbysu dy rieni dy fod yn ddiogel neu ddweud pryd fyddi’n cyrraedd adref
  • Gall tecstio hefyd fod yn ffordd dda o siarad â rhywun rwyt wrthi’n dod i’w nabod neu os byddi’n teimlo’n swil wrth siarad ar y ffôn. Mae’n ffordd amhersonol o ddod i nabod rhywun o bell
  • Yn aml iawn, gelli ddefnyddio lluniau a 'gwenogluniau’ - wynebau neu luniau sy’n dangos emosiynau gwahanol megis wyneb llawen neu flin, winc, tynnu tafod ayyb. Maent yn ffordd hwyliog o roi gwybod i rywun am dy deimladau heb ysgrifennu nac egluro hynny, ac maent yn ddefnyddiol i ddangos pan fydd rhywbeth wedi’i olygu fel jôc ayyb
  • Os cei neges testun gan rif anghyfarwydd, yna cofia holi pwy sydd wedi anfon y neges, oherwydd gallai fod gan rywun nad wyt yn ei adnabod na ddylai fod yn gwybod dy rif. Gallai fod yn rhif anghywir neu rywun nad wyt yn dymuno siarad ag ef/hi neu nad wyt yn dymuno iddo/iddi wybod dy rif, felly cofia sicrhau dy fod gwybod pwy sy'n siarad â thi
  • Os wyt yn cael dy fwlio trwy negeseuon testun neu’n cael negeseuon sarhaus, dylet drin hyn yn yr un modd â phe bait yn cael dy fwlio wyneb yn wyneb - siarada â rhywun rwyt yn ymddiried ynddo/ynddi ac a all dy gynorthwyo i ddelio â hyn. Un ateb i stopio’r negeseuon yn syth yw blocio'r rhif

‘Sexting’

Defnyddir y term Saesneg ‘sexting’ yn fwyfwy rheolaidd y dyddiau hyn. Mae’n disgrifio cyfnewid negeseuon neu luniau rhywiol – pa un ai a wyt yn dymuno'u derbyn neu beidio.

  • Gallai hyn olygu cael neges, llun neu fideo gan dy gariad, cael un gan rywun rwyt yn ei nabod neu hyd yn oed gan ddieithryn
  • Weithiau, bydd dieithriaid yn anfon negeseuon at bobl i ofyn cwestiynau amlwg rywiol neu ofyn iddynt anfon llun ohonynt ayyb
  • Cofia, pan fyddi'n anfon rhywbeth amlwg rhywiol at rywun arall, ni elli reoli beth fydd yn digwydd i'r deunydd hwnnw wedi hynny
  • Mae perygl y gall y neges, y llun neu’r fideo ddod i feddiant rhywun amhriodol, cael ei anfon at wahanol bobl, neu'n waeth na dim, cael ei gyhoeddi ar-lein ble gall pawb ei weld
  • Os bydd dy gariad yn gofyn i ti wneud hyn, sicrha dy fod yn ymddiried yn llwyr ynddo/ynddi i barchu dy breifatrwydd. Efallai y gwnânt ei rannu â’u ffrindiau, ac efallai na fyddant hwy yn parchu dy breifatrwydd neu dy berthynas i'r un graddau â thi
  • Os bydd rhywun nad wyt mewn perthynas gariadus â hwy n gofyn i ti wneud, ystyria eu rheswm dros ofyn am y deunydd. Beth fyddant yn bwriadu ei wneud â’r neges, y llun neu’r fideo y byddi’n anfon atynt? Os nad wyt mewn perthynas â hwy, gallai anfon rhywbeth fel hyn atynt arwain at ganlyniadau chwith iawn i ti. Os byddant yn gofyn hyn oherwydd eu bod yn dy hoffi, awgryma y dylent geisio dy nabod yn well yn gyntaf
  • Os yw dieithriaid yn gofyn i ti wneud hyn, yna dylet fod yn wyliadwrus iawn - nid ydynt yn dy adnabod, ond maent yn dymuno cael manylion neu luniau personol iawn ohonot er eu pleser hwy eu hunain, ac ni elli fod yn siŵr pwy gaiff weld y lluniau neu i ble cânt eu hanfon

Paid â theimlo o dan bwysau i anfon unrhyw beth â chynnwys rhywiol i unrhyw un – hyd yn oed i dy ffrindiau agosaf neu dy gariad. Nid oes rhaid i ti beryglu dy hun fel hun ac nid oes rhaid i ti wneud unrhyw beth sy’n gwneud i ti deimlo’n anesmwyth neu dan bwysau.

Os ydynt yn dy barchu, yna fe wnânt barchu dy hawl i beidio rhoi dy hun mewn sefyllfa ble byddi’n agored i niwed neu’n caniatáu i’r byd a’r betws dy weld. Yn yr achos gwaethaf, dychmyga pa mor chwithig y buaset yn teimlo pe bai dy rieni neu dy athrawon yn gweld y lluniau neu’r negeseuon hynny.

Nid oes unrhyw beth ‘cŵl ynghylch dy negeseuon, dy luniau neu dy fideos yn cael eu rhannu ymhlith dy ffrindiau, yn yr ysgol neu wedi’u cyhoeddi ar lein ble gall pawb eu gweld.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50