Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Cymdeithasu
Yn yr Adran Hon
Cymdeithasu
Mae cymdeithasu a mwynhau bywyd cymdeithasol gydag unigolion neu grwpiau o ffrindiau yn rhan bwysig o fywyd. Mae’n golygu bod yn gysylltiedig â phobl eraill a bod yn rhan o gymdeithas neu gymuned, sut caiff cyfeillgarwch ei adeiladu a'i ddatblygu a sut byddi'n cwrdd â phobl newydd.
Waeth faint o ffrindiau sydd gen ti, mae cymdeithasu yn golygu rhannu’r diddordebau a’r gweithgareddau rwyt yn eu mwynhau â phobl eraill, a gwneud pethau sy’n gwneud i ti deimlo'n dda amdanat dy hun. Wrth gwrs, mae mwynhau amser ar dy ben dy hun yn bwysig hefyd, i orffwys, ymlacio a gwneud pethau rwyt yn eu mwynhau. Mae’n well gan rai pobl dreulio amser ar eu pen eu hunain neu gymdeithasu ag un neu ddau o ffrindiau yn hytrach na grwpiau mawr. Yn achos cyfeillgarwch achos, mae ansawdd yn well na nifer.
Nid oes rhaid i gymdeithasu fod yn gostus, chwaith; mae'n golygu rhannu eich cwmni â phobl eraill, naill ai trwy sgwrsio trwy decstio neu dros y ffôn, ar-lein, gartref neu mewn mannau eraill. I lawer o bobl ifanc, mae cwrdd â ffrindiau yn rhywbeth sy’n digwydd yn eu hardal leol, a threulio amser gyda'i gilydd fel grŵp.
Cadw’n Ddiogel
Beth bynnag yw’r math o gymdeithasu sydd orau gennyt, mae cadw’n ddiogel yn bwysig, nid yn unig er dy les ond hefyd i fwynhau beth bynnag fyddi di'n wneud.
- Os byddi di’n mynd allan gyda ffrindiau, cofia roi gwybod i rywun ble byddi di a phryd fyddi di'n dychwelyd. Fe gaiff dy rieni dawelwch meddwl a byddi’n gallu ymlacio a mwynhau dy hun heb gael galwadau ffôn ganddynt!
- Cofia wefru dy ffôn rhag ofn y bydd rhywun yn dymuno dy ffonio neu rhag ofn y bydd argyfwng. Os gweli di ddamwain neu os byddi mewn perygl, fe wnaiff y rhan fwyaf o ffonau symudol ddeialu 999 neu 112 i alw'r gwasanaethau brys, hyd yn oed os nad oes gennyt gredyd neu hyd yn oed gerdyn SIM yn y ffôn
- Cofia gynllunio sut i gyrraedd adref o ble bynnag rwyt yn mynd, a chofia ganiatáu digon o amser os wyt yn bwriadu dal bws, trên, cerdded ac ati. Os bydd rhaid i ti ddal tacsi i fynd adref, cofia sicrhau fod gennyt ddigon o arian
- Yn ddelfrydol, dylet deithio adref gyda ffrind, a dylet gadw at y strydoedd a'r ffyrdd sydd wedi'u goleuo'n dda, ble byddi'n ddiogelach. Os byddi’n credu dy fod mewn perygl ac yn gweld heddwas ar y stryd, mae gennyt hawl i ofyn iddynt fynd gyda thi adref eu i le diogel
- Paid fyth a derbyn lifft gan unrhyw un sy’n anghyfarwydd i ti, hyd yn oed os byddant tua’r un oed ac yn ymddangos yn gyfeillgar. Mae’n well gwybod dy fod yn ddiogel na pheryglu dy hun
- Cadw dy eiddo gyda thi bob amser – allweddi, ffôn, bag ac ati
- Os wyt yn ddigon hen i yfed alcohol, paid â chymryd diodydd gan bobl eraill - wrth wneud hynny, byddi’n gwybod bob amser beth yn union y byddi’n ei yfed, ac yn gwybod na roddwyd unrhyw beth yn dy ddiod
- Os byddi wedi bod yn yfed, byddi'n fwy agored i niwed ac efallai bydd hynny’n effeithio ar dy allu i wneud penderfyniadau, gan dy wneud yn darged hawdd. Efallai bydd dieithriaid yn ymddangos yn fwy cyfeillgar, ond paid â rhai dy hun mewn unrhyw sefyllfaoedd peryglus diangen lle gallai rywun geisio cymryd mantais ohonot
Weithiau, bydd digwyddiadau yn digwydd y gellid bod wedi'u hosgoi oherwydd cymerwyd risgiau â diogelwch personol - mae'n well bod yn orofalus na bod mewn sefyllfa na elli ei reoli neu fod mewn perygl.
4 Comments – Postiwch sylw
Rhoddwyd sylw 63 mis yn ôl - 1st July 2011 - 18:45pm
good advice :)
Rhoddwyd sylw 55 mis yn ôl - 18th March 2012 - 11:02am
boys can be pressured into having sex too! I don't think this is depicted well here, and is a bit unfair! Although the rest is great! :)
National Editor
Rhoddwyd sylw 55 mis yn ôl - 19th March 2012 - 08:50am
Many thanks for the feedback - we are currently reviewing these info pages so your comment is very valuable Toriabeth! - much appreciated!
Rhoddwyd sylw 55 mis yn ôl - 19th March 2012 - 18:21pm
Well thank you Ryan! :P I just think equality is important!