Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Camdriniaeth



Camdriniaeth

Gall camdriniaeth fod yn bwnc anodd iawn i bobl ei drafod oherwydd gall cydnabod dy fod yn cael dy gam-drin fod yn ddryslyd ac anodd iawn. Efallai byddi’n teimlo'n chwithig neu'n ofni siarad amdano â neb.

Mae sawl math o gamdriniaeth:

  • Camdriniaeth rywiol yw pan fydd rhywun yn dy gyffwrdd, neu’n gofyn i ti neu’n dy orfodi i wneud gweithgareddau rhywiol nad wyt yn dymuno eu gwneud
  • Camdriniaeth gorfforol yw pan fydd rhywun yn ymddwyn yn dreisgar tuag atat, megis dy ddyrnu neu dy daro di
  • Gall camdriniaeth emosiynol gynnwys galw enwau, dy fygwth neu fod yn greulon tuag atat
  • Mae esgeuluso yn fath arall o gamdriniaeth sy’n golygu peidio â gofalu amdanat yn iawn, yn cynnwys peidio darparu digon i’w fwyta neu fethu dy ddiogelu rhag niwed

Yn anffodus, gallai’r sawl fydd yn dy gam-drin fod yn un o dy rieni, aelod arall o’r teulu neu berthynas, plentyn hŷn, un o ffrindiau’r teulu neu hyd yn oed rhywun sy’n honni bod yn un o dy ffrindiau. Gallai hefyd fod yn oedolyn yr wyt mewn cysylltiad ag ef.

Gall camdriniaeth rywiol fod yn ddryslyd iawn, oherwydd bydd yn aml yn rhywun rwyt yn adnabod ac yn ymddiried ynddo/ynddi:

  • Efallai bydd yn ceisio gwneud i ti feddwl nad oes dim o’i le ar yr hyn sy’n digwydd, ei fod yn beth arbennig rhwng y ddau ohonoch, cyfrinach. Efallai gwnaiff roi llawer o anrhegion i ti, prynu pethau i ti, mynd â thi i lefydd a rhoi llawer o sylw a chanmoliaeth i ti i wneud i ti deimlo'n dda
  • Efallai gwnaiff ddweud wrthyt am beidio dweud wrth neb neu na wnaiff gredu os dywedi wrthynt beth sy'n digwydd. Efallai gwnaiff fygwth dy frifo di neu rywun yn dy deulu os dywedi wrth unrhyw un
  • Bydd yn dweud neu’n gwneud y pethau hyn oherwydd mae’n gwybod fod yr hyn mae’n ei wneud yn anghywir, ac nid yw'n dymuno cael ei ddal
  • Trwy wneud i ti wneud gweithgareddau rhywiol, bydd yn cam-drin dy ymddiriedaeth ynddo/ynddi ac yn dy newidio

Gall unrhyw fath o gamdriniaeth wneud i ti deimlo'n ofnus, unig, dryslyd, â chywilydd, chwithig, euog a dig.

Mae gan bawb hawl i beidio cael ei gam-drin a chael ei amddiffyn rhag camdriniaeth, ac mae pobl ar gael a all ac a wnaiff dy helpu.

Mae penderfynu dweud wrth rywun a chanfod help yn gam pwysig i stopio’r gamdriniaeth. Gall fod yn beth anodd iawn ei wneud, yn enwedig o ran sut gall wneud i ti deimlo, ond dim ond eiliad o ddewrder sydd ei angen i ddweud wrth rywun fel na chei di dy gam-drin eto.

Ceisio cymorth

Bydd llawer o bobl sy’n cael eu cam-drin yn poeni y cânt helbul neu na wnaiff eu teulu eu credu os dywedant wrthynt beth sy’n digwydd. Cofia, os wyt yn cael dy gam-drin, nid ti sydd ar fai. Nid dy gyfrifoldeb di yw'r hyn sy'n digwydd. Bydd dull o ddatrys y broblem a phobl y gelli siarad â hwy bob amser ar gael, ac nid oes rhaid i ti gadw pethau’n gyfrinach:

  • Dewisa rywun y gelli ymddiried ynddo, megis rhiant, aelod o’r teulu, ffrind agos neu ei rieni, athro/athrawes, gweithiwr ieuenctid, meddyg, nyrs ysgol neu gymydog. Os yw’n anodd i ti siarad am yr hyn sy’n digwydd, ysgrifenna lythyr atynt a siarada â hwy ar ôl iddynt ei ddarllen
  • Os nad wyt yn dymuno dweud wrth rywun sy'n agos atat, mae sefydliadau arbennig ar gael sydd wedi ymroddi i helpu pobl ifanc sy'n cael eu cam-drin neu helpu pobl sy'n nabod rhywun sy'n cael ei gam-drin. Gwrando a helpu yw diben y sefydliadau hyn. Ni wnaiff unrhyw beth a ddywedi di beri sioc iddynt, ni wnânt dy feirniadu, ac fe wnânt adael i ti ddweud wrthynt yn dy ffordd dy hun
  • Oni byddant yn pryderu dy fod mewn perygl difrifol, bydd unrhyw beth a ddywedi wrthynt yn hollol gyfrinachol ac nid oes rhaid i neb wybod dy fod wedi siarad â hwy
  • Weithiau, os byddant yn credu dy fod mewn perygl, efallai gwnânt gymryd camau i dy ddiogelu, ond bydd rhaid iddynt wybod pwy wyt ti a ble'r wyt yn byw cyn gallant wneud hyn
  • Fe wnaiff y person o'r sefydliad ddisgrifio beth wnaiff ddigwydd os gwnei di benderfynu cymryd camau. Er enghraifft, efallai bydd angen i ti ddweud wrth yr heddlu neu wrth feddyg beth sydd wedi digwydd. Paid â phoeni, bydd y bobl hyn oll yn ceisio dy helpu ac ni fyddi mewn unrhyw drybini
  • Bydd rhai pobl ifanc yn poeni y cânt eu gwahanu oddi wrth eu teulu os byddant yn rhannu'r hyn sy'n digwydd. Ni wnaiff hyn ddigwydd oni bydd aros adref yn dy beryglu'n ddifrifol. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn ceisio cadw teulu gyda’i gilydd os gallant

Ymdopi â’r hyn sydd wedi digwydd

Pan fyddi wedi dweud wrth rywun, bydd rhyddhad yn deimlad arferol ond efallai byddi hefyd yn teimlo cymysgedd o emosiynau dryslyd, teimlo cywilydd, chwithdod, euogrwydd a dicter am yr hyn sydd wedi digwydd i ti. Bydd angen amser i'r teimladau hyn fynd heibio a gwella, ond fe wnei deimlo'n well yn y pen draw.

Mae’n bwysig mynegi’r teimladau hyn mewn rhyw ffordd, pa un ai a fyddi'n parhau i gael cymorth trwy siarad â rhywun neu efallai ysgrifennu am yr hyn sydd wedi digwydd a dy deimladau ynghylch hynny. Mae sawl grŵp cymorth y gelli eu mynychu ac mae fforymau ar-lein i dy gynorthwyo i ymdopi â'r hyn sydd wedi digwydd i ti.

Yn anffodus, mae camdriniaeth yn rhywbeth sy’n digwydd i lawer o bobl ac nid wyt ar dy ben dy hun.

Trwy atal rhywun rhag dy gam-drin a cheisio cymorth, byddi'n dangos dewrder a chryfder, sy’n rhywbeth i ymfalchïo ynddo.

6 CommentsPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 36 mis yn ôl - 11th October 2013 - 09:29am

WELL WHY IS THE SEX AGE 16

Rhoddwyd sylw 36 mis yn ôl - 11th October 2013 - 09:38am

I agree don't rush it and also (cause i'm still young) it is kind of scary if you think about having sex under the age of 16 when you are not ready! And I agree with you about all the safe stuff cause the man you love could have a virus!

Rhoddwyd sylw 36 mis yn ôl - 11th October 2013 - 09:45am

dont rush into it

Rhoddwyd sylw 36 mis yn ôl - 11th October 2013 - 09:46am

dont rush !!!!!

Rhoddwyd sylw 36 mis yn ôl - 11th October 2013 - 09:49am

RIGHT THE SEX AGE SHOULD BE 12 AND OVER CAUSE IT WOULD BE FUN AND YOU CHOULD BY CONDOMS FOR YOU AND YOUR GIRLFRIEND AND YOU CAN RUSH INTO IT AND EVEN IF YOU DONT LIKE IT YOU CAN STOP IT AND TRY AGAIN NEXT YEAR

Rhoddwyd sylw 36 mis yn ôl - 14th October 2013 - 11:56am

Yes 16 is the legal age for sex but is this necessary? Between your teenage years you make your own decisions regardless of guidelines! Do not rush or feel pressured into sex, i think you know within yourself when the time is right.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50