Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Cael Cymorth a Chefnogaeth
Yn yr Adran Hon
Cael Cymorth a Chefnogaeth
Pan aiff pethau o’u lle yn dy fywyd, bydd yn bwysig i ti beidio cadw pethau i ti dy hun. Gall siarad â rhywun dy gynorthwyo i deimlo'n well a gall hefyd gynorthwyo â’r broblem.
Er bod hi’n wych cael ffrindiau i siarad â hwy ac ymddiried ynddynt, efallai na fyddant yn gwybod beth yw’r ffordd orau o dy gynorthwyo, yn enwedig yn achos problemau difrifol.
Pan fyddi’n cael dy fwlio, neu os bydd rhywun yn gwahaniaethu yn dy erbyn neu'n dy gam-drin, neu phan fyddi'n wynebu problem na elli ymdopi â hi ar dy ben dy hun, mae pobl ar gael a wnaiff wrando arnynt a chynnig cymorth a chefnogaeth i ti.
- Os gelli wneud hynny, ceisia siarad gyda dy fam neu dy dad, dy frawd mawr neu dy chwaer fawr, neu aelod arall o dy deulu agos, ynghylch yr hyn sy'n dy bryderu. Efallai byddant yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i ti a gweithio gyda thi i ddatrys y broblem
- Weithiau, efallai bydd y broblem oddi fewn i’r teulu, felly efallai gelli geisio siarad â rhywun fel athro, gweithiwr ieuenctid, meddyg, cymydog neu riant ffrind yn lle hynny
- Os na fyddi'n dymuno siarad â rhywun rwyt yn ei adnabod, mae sefydliad arbennig ar gael i ti. Fe wnânt gynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol i ti, ac maent ar gael 24 awr y dydd mewn rhai achosion. Maent eisoes wedi delio â phroblemau fel dy rai di, felly paid â theimlo embaras na chywilydd. Ni wnânt dy feirniadu
- Er bod y rhan fwyaf o linellau cymorth yn gyfrinachol, os bydd y person y byddi’n siarad ag ef yn credu dy fod mewn perygl difrifol, efallai y gwnaiff benderfynu fod angen cymryd camau. Bydd hyn yn digwydd mewn achosion eithaf yn unig pan fyddi mewn perygl. Os bydd hyn yn digwydd, efallai gwnaiff yr unigolyn ofyn am dy enw a dy gyfeiriad fel gall anfon rhywun i dy helpu. Paid ag ofni - maent yno i dy gynorthwyo ac nid wyt mewn unrhyw drybini
- Bydd ar bobl angen gwybod dy enw a ble'r wyt er mwyn gallu dy gynorthwyo, felly os nad wyt yn dymuno i unrhyw un ymyrryd, ni wnânt wneud hynny. Fodd bynnag, os bydd y sawl sy’n siarad â thi yn bryderus amdanat, bydd rheswm da iawn dros hynny fel arfer, a dylet wrando ar eu cyngor
- Os bydd y broblem yn ymwneud â rhywbeth gartref, bydd llawer o bobl yn pryderu y gellir eu gwahanu oddi wrth eu teulu, ond mae hyn yn brin iawn, ac ni wnaiff ddigwydd oni fyddwch yn ddiogel gartref
- Ni wnaiff cadw pethau i chi eich hun wneud i’r broblem ddiflannu, a cheisio cymorth yw’r cam cyntaf i wella pethau. Bydd rhywun ar gael bob amser i gynorthwyo, ac nid oes unrhyw broblem yn rhy fawr i’w datrys â'r cymorth iawn