Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pobl Yn Dy Fywyd » Cyfathrebu a Phan Aiff Pethau Ou Lle » Ffraeo



Ffraeon

Ni fyddi bob amser yn cytuno â barn pobl eraill ac mae hyn yn rhywbeth hollol normal. Ond pan fydd anghytundeb yn cyrraedd y pwynt lle bydd un neu ddau o bobl yn gwylltio, yna bydd yn troi’n ffrae.

  • Bydd ffraeo yn peri gofid, ac yn ystod ffrae, gellir dweud llawer o bethau a all frifo dy deimladau
  • Gall ffraeo achosi hyd yn oed rhagor o straen os bydd yn digwydd yn rheolaidd gyda’r un unigolyn. Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn dadlau gyda’u rhieni neu’u gwarcheidwaid, neu eu brodyr neu chwiorydd, ac mae hyn yn rhan normal o dyfu i fynnu a chael perthynas â rhywun
  • Mae ffraeo â ffrindiau neu gariadon o bryd i’w gilydd yn gyffredin hefyd
  • Mae gan bawb eu syniadau a’i safbwyntiau, ac os bydd dy rai di yn gwrthdaro â rhai rhywun arall, gall hyn achosi ffrae
  • Ond ni wnaiff sgrechian a bloeddio ar eich gilydd a chau drysau’n glep ddatrys unrhyw beth. Bydd angen ymddwyn yn fwy aeddfed i gael yr hyn byddi’n ei ddymuno. Cychwynna trwy drafod yn bwyllog yr hyn wyt yn ei ddymuno, pam wyt yn ei ddymuno, a pham wyt yn credu y dylai ddigwydd. Yna, heb dorri ar draws, gwranda ar safbwynt y llall. Yna, gyda’ch gilydd, ceisiwch yn bwyllog i wneud penderfyniad sy'n dderbyniol i'r ddau ohonoch
  • Trwy ymddwyn yn aeddfed a pharchus, byddi'n fwy tebyg i gael dy ddymuniadau
  • Bydd pawb yn ffraeo ac fel arfer nid yw’n destun pryder, ond os wyt yn pryderu dy fod yn ffraeo llawer â rhywun, siarada â hwy a dywed wrthynt sut wyt yn teimlo. Byddant hwy’n teimlo yr un fath, mae’n debyg. Ceisia edrych ar achos dy ffraeon a sut gelli geisio osgoi eu cychwyn yn y lle cyntaf
  • Ni ddylai ffraeo fyth arwain at drais gan unrhyw un. Os yw dy ffraeon yn dod yn dreisgar, ceisia gael cymorth a chefnogaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50