Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dysgu yn y Cartref » Dysgu o Bell ac E-Ddysgu



Dysgu o Bell ac E-Ddysgu

Pan fyddi’n gadael yr ysgol, nid oes rhaid i addysg olygu mynd i’r coleg neu’r brifysgol – gelli astudio gartref trwy gyfrwng rhaglenni dysgu o bell ac e-ddysgu (fe’u gelwir weithiau yn gyrsiau astudio gartref neu gyrsiau drwy’r post).

  • Mae dysgu o bell ac e-ddysgu yn dod yn boblogaidd iawn, oherwydd gelli astudio gartref, ar dy gyfrifiadur dy hun ac yn dy amser dy hun
  • Mae’n rhoi cyfle i ti ennill cymwysterau lefel uwch a chyfuno dysgu â chyfrifoldebau gwaith a theuluol eraill mewn ffordd hyblyg
  • Ar y llaw arall, mae angen llawer iawn o hunanddisgyblaeth, ac efallai bydd angen llawer iawn mwy o amser na chwrs prifysgol amser llawn
  • Mae rhai cyrsiau yn cynnig cyfle i gael dy asesu (profion ac arholiadau) ac ennill cymhwyster, ac mae eraill yn seiliedig ar hobïau - felly gelli ddysgu er mwynhad neu er mwyn ennill cymhwyster
  • Mae rhai cyrsiau dysgu o bell yn gweithredu gan ddefnyddio’r system bost (byddant yn anfon dy waith cwrs atat, a byddi’n ei gwblhau ac yn ei ddychwelyd atynt trwy’r post i’w asesu), tra bo cyrsiau E-ddysgu ac ar-lein yn defnyddio'r Rhyngrwyd ac e-bost
  • Y dyddiau hyn, mae llawer o gyrsiau dysgu o bell yn defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau ac asesiadau trwy’r post ac ar y Rhyngrwyd
  • Nid hwn yw'r dewis mwyaf cyffredin i bobl ifanc 18 oed, ond mae'n ddewis y gelli ei ystyried

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50