Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dysgu yn y Cartref » Addysg yn y Cartref



Addysg yn y Cartref

Dydy ysgol ddim yn gweddu pawb ac addysg gartref neu hyfforddiant cartref ydy pan fydd rhieni yn teimlo gallent roi addysg well i'w plentyn gartref.

Mae’r gyfraith yn dweud ei bod yn orfodol ar bawb rhwng 5 ac 16 oed gael addysg amser llawn, ond mae hefyd yn caniatáu i rieni addysgu eu plant gartref neu gyda thiwtoriaid preifat yn hytrach na'u hanfon i'r ysgol.

Rhai o’r prif resymau dros rieni’n addysgu eu plant gartref yw

  • Problemau bwlio
  • Rhesymau crefyddol
  • Salwch tymor hir
  • Anghenion addysgol arbennig
  • Anabledd
  • Anhapusrwydd gyda chwricwlwm yr ysgol/dulliau dysgu
  • Mae'r person ifanc wedi’i rwystro rhag mynychu’r ysgol am reswm arall fel gwaharddiad neu broblemau ymddygiad

    Rhai o'r prif wahaniaethau:

    • Efallai bydd pobl ifanc sydd yn cael addysg gartref ddim yn cael cymysgu gydag eraill o'r un oed fel y bydda nhw yn yr ysgol, ond yn lle hyn yn gallu cymdeithasu gyda phlant o bob oedran ac oedolion hefyd.
    • Mae plant ysgol yn cael eu dysgu gan bobl broffesiynol hyfforddedig, ond gall rhieni gyflogi amrywiaeth o diwtoriaid preifat ar gyfer pynciau maent yn teimlo sydd y tu allan i'w cronfa wybodaeth nhw.
    • Mae plant ysgol efo mynediad i gyfleusterau ac offer i gyd o dan yr un to, tra mae pobl ifanc sy'n cael eu dysgu gartref yn gallu cael mynediad i gyfleusterau arbenigol mewn amryw leoliad e.e. chwaraeon ac addysg gorfforol yn digwydd mewn canolfannau hamdden neu glybiau chwaraeon.
    • Mae'r cyflymdra mae'r person ifanc yn cael ei ddysgu gartref yn cael ei deilwro i'r unigolyn ac yn addas ar gyfer ei allu dysgu, dull dysgu a'i anghenion.

    Os ydy rhiant yn dymuno addysgu ei blentyn gartref yna maent yn gorfod 'dadgofrestru' eu plentyn gyda'r ysgol mewn ysgrifen ac maen nhw wedyn yn gadael i'r Awdurdod Addysg Leol (AALl) wybod.

    Yr unig eithriad i hyn ydy pan fydd plentyn yn mynychu ysgol arbennig pan mae'r rhieni yn gorfod gofyn caniatâd gan yr AALl i dynnu'r plentyn er mwyn dewis addysgu gartref.

    Mae rhieni sydd yn dewis addysgu eu plentyn gartref efo cyfrifioldeb i sicrhau fod yr addysg o'r un safon neu'n uwch a byddai'r plentyn hwnnw'n derbyn yn yr ysgol gydag ymwybyddiaeth yr AALl.

    Nid yw rhieni o reidrwydd yn addysgu eu plant gartref ar ben eu hunain heb gefnogaeth. Mae yna nifer o rwydweithiau a grwpiau addysgu cartref ar gyfer rhieni a phobl ifanc iddynt ryngweithio a rhannu profiadau gydag eraill yn yr un sefyllfa.

    Rhywbeth i ddweud?

    Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

    Mewngofnodi neu Cofrestru.

    Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50