Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dysgu yn y Cartref » Addysg Oedolion a Chymunedol
Yn yr Adran Hon
Addysg Oedolion a Chymunedol
Mae gan y rhan fwyaf o drefi Ganolfan Addysg Gymunedol sy’n cynnig cyrsiau rhan amser yn ystod y dydd a gyda’r nos ar gyfer oedolion. Mae'r rhain yn ddosbarthiadau sydd yn cael eu cynnig trwy gydol y dydd a'r nosweithiau ac ar benwythnosau.
- >Mae’r cyrsiau a gynigir yn amrywio, ond byddan nhw’n cynnwys pynciau fel ieithoedd, celf a chrefft, coginio, sgiliau cyfrifiadurol, garddlunio, dawns a chrefft ymladd hefyd
- Efallai bydd rhaid i ti dalu ffi fechan i fynychu’r cyrsiau hyn ond mae rhai yn cael eu cynnig am ddim ac os wyt ti ar fudd-daliadau fe ddylet ti gael mynediad i nifer ohonynt heb dalu ceiniog
- Gall addysg gymunedol fod yn ffordd wych o fynd allan a chyfarfod pobl yn dy ardal leol a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd
- Bydd rhai o'r cyrsiau a gynigir efo'r opsiwn o weithio tuag at gymhwyster sydd yn ffordd wych o gynyddu dy sgiliau a rhagolwg dy ddyfodol
- Ymhlith yr opsiynau eraill ar gyfer oedolion sy’n dysgu mae mynychu dy goleg lleol neu astudio trwy ddysgu o bell neu e-ddysgu - edrycha ar ein hadrannau ar y rhain am fwy o wybodaeth