Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyngor Cyfreithiol » Wedi'ch Arestio

Os bydd yr heddlu yn amau eich bod chi wedi troseddu fe fyddan nhw’n eich arestio. Unwaith y byddwch chi wedi’ch arestio fe fyddwch chi’n colli sawl rhyddid, ond fe fydd rhai hawliau gennych chi o hyd. Yn eu plith mae:


Yr hawl i gael gwybod gan yr heddlu pam eu bod nhw wedi’ch arestio
Mae gennych chi hawl i fynnu bod rhywun yn cael gwybod eich bod chi wedi’ch arestio. Os ydych chi dan 17 oed a’r heddlu yn eich cadw yn y ddalfa, dylai oedolyn priodol, eich rhiant neu’ch gwarcheidwad fel arfer, gael gwybod cyn gynted â phosib. Ni ddylai’r heddlu eich arestio hyd nes bydd eich rhiant yn bresennol, oni bai y byddai oedi’n golygu risg neu niwed i rywun, neu golled neu ddifrod difrifol i eiddo
Mae gennych chi hawl i weld cyfreithiwr yn breifat. Os na allwch chi fforddio cyfreithiwr neu os nad oes gennych chi unrhyw syniad sut i gysylltu ag un, yna fe fydd un yn cael ei ddarparu ar eich cyfer
Mae gennych chi hawl i gael eich trin yn drugarog, gyda pharch
Mae gennych chi hawl i ddewis peidio â dweud unrhyw beth unwaith y byddwch chi wedi’ch arestio.

Unwaith y byddwch chi wedi’ch arestio dim ond hyn a hyn o amser gall yr heddlu eich cadw, sef 24 awr fel rheol, ond os yw’r drosedd yn un ddifrifol mae’n bosib estyn hyn i 36 awr. Gall yr heddlu wneud cais i lys ynadon i estyn yr amser i 96 awr. Pan ddaw’r amser yma i ben, fe fyddech fel arfer yn cael eich cyhuddo neu’ch rhyddhau.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50