Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyngor Cyfreithiol » Cyngor Cyfreithiol

Fe fydd yna amrywiaeth eang o resymau pam, ar rai adegau yn eich bywyd, y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch chi. Bydd rhai o’r rhesymau yma’n rhai da, fel prynu ty. Ar adegau eraill efallai y bydd rhywbeth wedi mynd o chwith ag eitem rydych chi wedi’i phrynu ac mae anghydfod rhyngoch chi a’r cwmni oedd wedi’i gwneud neu’r cwmni y gwnaethoch chi ei phrynu oddi wrtho. Yna mae’n bosib y bydd angen cefnogaeth gyfreithiol arnoch chi oherwydd eich bod wedi’ch arestio a bod yr heddlu wedi’ch cyhuddo o drosedd.

Nid yw bob amser yn angenrheidiol ymgynghori â chyfreithiwr er mwyn cael cyngor cyfreithiol, ac mae yna nifer o wahanol leoedd a phobl sy'n gallu helpu â materion cyfreithiol. Awgrymiadau yw’r canlynol o leoedd y gallech chi fod am ymgynghori â nhw os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch chi cyn y byddwch chi’n penderfynu a oes angen cyfreithiwr arnoch chi ai peidio:


Canolfannau gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc. Gall y rhain gynnwys Siopau Gwybodaeth (Info Shops), Canolfannau Galw Heibio i Ieuenctid lle mae’n bosib y bydd gweithwyr ieuenctid ar gael. Byddan nhw’n eich helpu chi i wneud galwadau ffôn ac i ysgrifennu llythyrau, ac efallai mai dyma i gyd fydd ei angen. Mae’r help yma'n rhad ac am ddim.
Canolfannau Cyngor ar Bopeth (CAB). Weithiau mae yna bobl yn y rhain sydd â phrofiad cyfreithiol ar gyfer rhai materion fel budd-daliadau, cyflogaeth, gwahaniaethu ac ati. Mae gan CAB lawer o brofiad o ddelio â hawliau defnyddwyr. Mae’r help yma'n rhad ac am ddim.
Canolfannau’r gyfraith. Mae’r rhain yn debyg i ganolfannau cyngor ond maen nhw’n arbenigo mewn problemau cyfreithiol ac mae ganddyn nhw gyfreithiwr yn gweithio iddyn nhw.
Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, mae ganddyn nhw eu cyfreithwyr eu hunain a fydd yn helpu aelodau os yw’r mater yn ymwneud â chyflogaeth, a bydd rhai undebau’n cynnig help i’w haelodau â phob mater cyfreithiol. Mae’r help yma'n rhad ac am ddim.
Yn aml, bydd polisïau yswiriant yn cynnig cyngor cyfreithiol fel rhan o’r polisi; gallai hyn fod yn wir yn achos yswiriant car neu yswiriant ty.
Cwmnïau cyfreithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys un neu fwy o gyfreithwyr a phobl eraill sydd â phrofiad cyfreithiol. Pan fydd hynny’n briodol, bydd cyfreithwyr yn cyflogi bargyfreithwyr i gynrychioli eu cleientiaid yn y llys. Bydd yn rhaid talu am yr help yma fel arfer, ond fe all fod yn rhad ac am ddim mewn rhai sefyllfaoedd.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu cael help â threuliau cyfreithiol. Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio cyfreithiwr, fe fydd yn rhoi cyngor ichi ar sut i gael help ariannol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50