Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyngor Cyfreithiol » Mechnaeth

Pan fyddwch chi wedi’ch arestio a’ch cyhuddo o drosedd, fel arfer fe fydd tipyn o amser yn mynd heibio cyn i’ch achos fynd gerbron y llys, neu cyn ichi gael eich ceryddu neu dderbyn rhybudd terfynol. Yn ystod yr adeg yma fe allwch chi gael eich cadw yn y ddalfa mewn sefydliad cadw, neu efallai y byddwch chi’n cael cynnig mechnïaeth.

Mae yna ddau fath o fechnïaeth:

Mechnïaeth Ddiamod sy’n golygu y gallwch chi fynd adref a byw eich bywyd arferol hyd nes daw eich achos gerbron y llys, nes y byddwch chi’n cael eich ceryddu neu nes y byddwch chi’n derbyn rhybudd terfynol.

Mechnïaeth Amodol sydd ag amodau penodedig, a allai gynnwys:


Gorfod aros yn y ty ar adegau penodol o’r dydd neu’r nos (cyrffyw)
Adrodd i orsaf yr heddlu neu’r llys ar adegau penodedig bob wythnos
Fe allech chi gael eich ‘tagio’ tra’r ydych chi ar fechnïaeth fel bod modd eich olrhain, ac mae’n rhaid ichi fod yn y ty ar adeg penodol
Efallai y bydd yn rhaid ichi gadw draw oddi wrth y dioddefwr a’r tystion
Efallai y cewch chi eich gorchymyn i fyw gartref neu gyda rhywun arall yn ystod yr amser yma
Mae yna hosteli mechnïaeth hefyd y gallech chi gael eich anfon iddyn nhw. Gwelwch isod.

Fe fydd eich cyfreithiwr yn trafod telerau eich mechnïaeth; bydd hyn hefyd yn cynnwys y Tïm Troseddu Ieuenctid os ydych chi rhwng 11 a 17 oed. Os na fyddwch chi’n cadw at amodau’r fechnïaeth, gallwch chi gael eich arestio a’ch atal rhag mynd adref hyd nes bydd eich achos wedi dod i ben.

Gwrthod Mechnïaeth

Mae’n bosib gwrthod mechnïaeth am y rhesymau canlynol:


Roeddech chi wedi troseddu pan roeddech chi ar fechnïaeth o’r blaen
Credir bod angen amddiffyn eiddo neu bobl rhag cael eu niweidio neu eu hanafu
Mae yna amheuaeth ynghylch eich enw a’ch cyfeiriad
Credir ei bod yn bosib na fyddwch chi’n troi i fyny yn y llys.

Os na fyddwch chi’n cael mechnïaeth fe fyddwch chi’n cael eich cadw yn y ddalfa. Os ydych chi’n 17 oed neu’n iau yn y ddalfa, bydd hyn fel arfer mewn cartref plant neu gyda rhieni maeth. Mewn amgylchiadau eithriadol, fe allech chi gael eich cadw mewn uned gadw.
Gall y ddalfa fod mewn carchar hefyd os ydych chi’n 15 oed neu’n hyn (os ydych chi’n 15 neu’n 16 oed, mewn canolfan gadw arbennig mewn sefydliad troseddwyr ifanc fydd hyn).

Gall y cyfnod yn y ddalfa bara hyd nes bydd eich achos wedi dod i ben. Gall hyn fod am ychydig o ddyddiau, ond ar y llaw arall gall fod yn 9 mis. Efallai ei bod yn ymddangos bod hyn yn annheg gan nad ydych chi wedi’ch cael yn euog o unrhyw drosedd eto.

Mae’n bwysig eich bod chi’n ceisio cadw yn gadarnhaol tra’r ydych chi’n aros am eich achos, yn enwedig os ydych chi’n ddieuog. Gall fod yn anodd cael eich cadw rhywle os ydych chi’n ifanc ac heb arfer â chael cyfyngiadau ar eich rhyddid.

Hosteli Mechnïaeth

Mae hosteli mechnïaeth yn darparu lefel ‘fanwl’ o oruchwyliaeth ar gyfer troseddwyr a phobl ar fechnïaeth. Maen nhw’n darparu lleoedd ar gyfer unigolion ar wahanol gyfnodau yn y broses cyfiawnder troseddol, gan gynnwys:


Pobl ar fechnïaeth sy’n aros achos yn y llys
Pobl ar fechnïaeth sydd wedi’u cael yn euog ac sy’n cael eu hasesu
Troseddwyr ar brawf
Carcharorion sydd wedi’u rhyddhau ar drwydded.

Mae hosteli’n gweithredu rheolau llym i gael rheolaeth ar ymddygiad, maen nhw’n gorfodi cyrffyw, ac yn cytuno ar raglenni gwaith er mwyn lleihau troseddu. Gall y preswylwyr hefyd dderbyn cyngor ar faterion personol, yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer gwaith a help i symud ymlaen i rywle parhaol i fyw.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50