Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyngor Cyfreithiol » Atal a Chwilio

Mae’r grym cyffredinol gan yr heddlu i’ch stopio yn y stryd, a’ch holi ynglyn â’ch enw, eich cyfeiriad, lle rydych chi wedi bod a lle rydych chi’n mynd. Gall hyn ddigwydd yn hwyr yn y nos yn aml. Nid oes yn rhaid ichi ateb yr heddwas, ond mae o fudd ichi ei ateb. Os byddwch chi’n ddigywilydd neu’n rhedeg i ffwrdd fe allai’r heddwas ddechrau eich amau.

Os byddwch yn cael eich stopio, mae gennych chi hawl i gael gwybod enw’r heddwas, pa orsaf mae'n dod ohoni a pham ei fod wedi’ch stopio. Mae’n rhaid i’r heddwas fod â rheswm rhesymol dros eich stopio a/neu eich chwilio. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r heddlu fod wedi’ch gweld yn gwneud rhywbeth amheus neu mae’n rhaid fod rhywbeth ynglyn â’ch ymddygiad sy’n amheus, neu mae’n rhaid fod rhywun wedi rhoi gwybodaeth iddyn nhw sydd wedi gwneud iddyn nhw eich amau. Er mwyn eich chwilio mae’n rhaid i’r heddlu fod â rheswm rhesymol dros amau y byddan nhw’n dod o hyd i rywbeth sydd wedi’i ddwyn neu sy’n anghyfreithlon. Gallai hyn fod yn gyffuriau neu'n arf bygythiol neu’n rhywbeth y gallech chi ei ddefnyddio i droseddu.

Os ydych chi’n 17 oed neu’n hyn, gallwch chi wirfoddoli i adael i’r heddlu eich chwilio; os ydych chi’n 16 oed neu’n iau gall oedolyn ‘priodol’ e.e. eich rhiant neu’ch gwarcheidwad, wirfoddoli i adael iddyn nhw eich chwilio. Mewn rhai sefyllfaoedd arbennig e.e. gêm pêl-droed gallwch chi gael eich chwilio heb reswm. Gallwch chi gael eich chwilio pan rydych chi mewn man cyhoeddus, gan gynnwys canolfannau siopa a sinemâu. Hefyd, gall yr heddlu chwilio unrhyw beth rydych chi’n ei gario neu gerbyd rydych chi ynddo neu rydych chi’n berchen arno. Os bydd yr heddlu yn mynnu eich bod yn tynnu mwy o ddillad na’r rhai allanol e.e. côt neu siaced, mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau eich bod yn gwneud hyn i ffwrdd o olwg y cyhoedd, a rhaid i'r heddwas fod yr un rhyw â chi.

Gall yr heddlu chwilio’ch ty os oes ganddyn nhw reswm i gredu y gallen nhw ddod o hyd i rywun sydd wedi troseddu, a bod y drosedd yn un y gallen nhw ei arestio amdani, neu gallan nhw edrych am dystiolaeth sy’n gysylltiedig â hyn; neu os oes ganddyn nhw warant neu ganiatâd llys; neu i ddal carcharor sydd wedi dianc neu i arbed bywyd neu i atal difrod difrifol i eiddo neu i atal rhyw fath o aflonyddwch.

Rhaid cadw cofnod ysgrifenedig os cewch chi eich chwilio, ac fe ddylai hwn gynnwys manylion, fel y rheswm dros eich chwilio, beth roedden nhw’n chwilio amdano, amser, dyddiad a lleoliad y chwilio yn ogystal ag enw’r heddwas a oedd yn arwain y chwilio, canlyniadau’r chwilio ac unrhyw ddifrod i’ch eiddo. Gallwch chi ofyn am gopi o’r adroddiad hyd at un flwyddyn ar ôl iddo gael ei ysgrifennu.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50