Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Sgiliau » Sgiliau Sylfaenol



Sgiliau Sylfaenol

Mae sgiliau sylfaenol fel darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau yn bwysig iawn ar gyfer y mwyafrif o bethau mewn bywyd, yn helpu ti i fyw a gweithio.

Mae nifer o bobl yn ei chael yn anodd dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu, i lenwi ffurflenni ac i wneud mathemateg, ond mae'r rhain yn bethau hanfodol rwyt ti ei angen ac os wyt ti'n cael trafferthion yna mae angen i ti wneud rhywbeth am hyn.

O sefyllfaoedd bob dydd fel gwybod os wyt ti wedi cael yr arian iawn yn newid mewn siop, gallu darllen arwyddion ffordd neu ddarganfod dy ffordd o gwmpas ardal nad wyt ti wedi bod iddo o'r blaen, i ennill cymwysterau a chael y swydd rwyt ti eisiau, rhain yw'r sgiliau sylfaenol rwyt ti ei angen.

  • Efallai dy fod yn teimlo cywilydd os wyt ti'n cael problemau â sgiliau sylfaenol, ond mae help uniongyrchol ar gael yn rhwydd gartref, yn yr ysgol, colegau, yn y gymuned a hyd yn oed tra byddi di'n gweithio, felly paid â bod ofn gofyn am help os oes ei angen arnat.
  • Y peth gwaethaf gallet ei wneud ydy cogio nad oes problem, bydd y sgiliau yma yn helpu ti ymhob agwedd o dy fywyd.
  • Os wyt ti'n cael anawsterau gyda sgiliau sylfaenol yn yr ysgol neu yn y coleg, mae'n werth siarad ag athro neu diwtor, a fydd yn gallu rhoi cyngor ymarferol, cynnig cefnogaeth ychwanegol neu gyfeirio ti at sefydliadau defnyddiol.
  • Mae nifer o gyrsiau hyfforddiant a chyrsiau coleg yn cynnig cefnogaeth sgiliau sylfaenol tra rwyt ti'n astudio ar gyfer rhywbeth arall.
  • Mae Canolfannau Addysg Oedolion neu brosiectau cymunedol bellach yn cynnal cyrsiau sgiliau sylfaenol. Mae rhai yn cynnig cynllun arbennig i'r di-waith, yr anabl, y rhai sydd wedi'u gwneud yn ddi-waith neu eraill sydd yn mynd yn ôl i'r gwaith ar ôl cyfnod hir.
  • Mae'r mwyafrif o gyrsiau Sgiliau Sylfaenol yn rhad ac am ddim ac yn arwain at gymhwyster gwerthfawr a allai helpu ti i wella'ch golygon yn y gwaith, neu i newid gyrfa.
  • Fe fyddi di'n datblygu dy hyder trwy chwilio a derbyn y gefnogaeth rwyt ti ei angen.

Dyslecsia

Daw dyslecsia o iaith Groeg ac mae'n golygu 'anhawster gyda geiriau'. Dydy rhai pobl sydd yn cael problemau gyda sgiliau sylfaenol fel darllen ac ysgrifennu ddim yn sylweddoli fod ganddynt ddyslecsia.

  • Mae dyslecsia yn effeithio ar rannau'r ymennydd sy'n gyfrifol am ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu.
  • Efallai bydd pobl sydd â dyslecsia yn sylwi ei fod yn effeithio eu sgiliau llefaru, cofio, darllen, sillafu, ysgrifennu ac weithiau rhifedd (mathemateg).
  • Mae dyslecsia yn effeithio tua 10% o'r boblogaeth.
  • Os wyt ti'n meddwl efallai dy fod yn ddyslecsig siarada gyda rhiant, athro neu diwtor, mae nifer o ffyrdd i gefnogi ti i gynyddu dy sgiliau sylfaenol.
  • Gall ddarganfod ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol am ddyslecsia yma: http://www.walesdyslexia.org.uk/am-dyslecsia?lang=cy

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50