Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Sgiliau » Nodweddion Personol
Yn yr Adran Hon
Nodweddion Personol
Nodweddion personol yw'r hyn sy'n dy wneud di'n wahanol i bobl eraill. Maen nhw'n llunio dy bersonoliaeth unigryw ac yn gwneud ti yn pwy wyt ti.
Mae gan bawb set gwahanol o nodweddion personol.
- Mae nodweddion personol yn bwysig yn dy fywyd bob dydd ac yn dy berthnasoedd â phobl eraill
- Ymhlith enghreifftiau o nodweddion personol mae bod yn: gyfeillgar, penderfynol, creadigol, meddu ar synnwyr digrifwch, bod yn uchelgeisiol, brwdfrydig, cymwynasgar, ystyriol, prydlon, meddylgar, hawdd dy drin, onest, dibynadwy, hyblyg, taclus, trefnus, gweithio’n galed, egnïol, cwrtais, tringar, amyneddgar, anturus a chyfrifol
- Mae angen i ti fod wedi dangos y nodwedd hon fwy nag unwaith cyn y gallet ti ddweud bod y nodwedd honno gen ti
- Yn aml, ystyrir bod nodweddion personol yn dangos sut mae person yn naturiol, ond mae’n bosib gwella nodweddion personol penodol gydag ymarfer a phrofiad. Er enghraifft, mae’n bosib dysgu sut i ddod yn fwy amyneddgar, yn fwy trefnus neu’n fwy prydlon
- Gall cyflogwyr werthfawrogi nodweddion personol pobl cymaint â sgiliau ymarferol, fel dy sgiliau cyfathrebu, y gallu i weithio fel rhan o dîm, y gallu i wrando a dilyn cyfarwyddiadau a'r gallu i ddangos menter pan bod angen