Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Sgiliau » Sgiliau Allweddol
Yn yr Adran Hon
Sgiliau Allweddol
Mae Sgiliau Allweddol yn disgrifio set o sgiliau sydd yn helpu ti i astudio a dysgu, maent yn bwysig ar gyfer helpu ti i gael graddau da yn yr ysgol neu'r coleg ac mae cyflogwyr a phrifysgolion yn rhoi gwerth uchel arnyn nhw.
Mae sgiliau allweddol yr un fath p'un a wyt ti yn yr ysgol, yn y coleg, neu mewn gwaith.
Y rhain yw:
- Cymhwyso rhif – defnyddio ffigyrau a rhifau
- Cyfathrebu – siarad, ysgrifennu a gwrando
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu – defnyddio cyfrifiaduron
- Gwella eich Dysgu a'ch Perfformiad eich hun – yn barod i ddysgu pethau newydd
- Datrys Problemau – dod o hyd i ateb