Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau Gwaith » Sefydlu
Yn yr Adran Hon
Sefydlu
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dechrau swydd newydd yn mynd trwy broses a elwir yn sefydlu.
Mae sefydlu yn golygu darparu gwybodaeth a ffeithiau i weithwyr newydd i'w helpu i setlo i mewn i'r swydd newydd ac i ddeall sut mae'r cwmni'n cael ei drefnu a'i weithred gan gynnwys unrhyw reolau a rheoliadau.
Y broses sefydlu
- Efallai na fydd y broses sefydlu yn un ffurfiol iawn
- Mewn sawl sefydliad bydd rheolwr neu oruchwyliwr y gweithiwr newydd yn cynnal y broses yn anffurfiol, o ddydd i ddydd
- Mae sefydlu yn aml yn cychwyn cyn i'r person ddechrau yn y swydd, gyda'r sefydliad yn darparu deunydd fel rhan o 'pecyn gwybodaeth' cychwynnol, neu gyda'r gwahoddiad i'r cyfweliad, neu gyda'r llythyr sy'n cynnig y swydd
- Pan fydd gweithiwr yn dechrau yn y swydd mae rhan fwyaf o'r broses sefydlu yn cynnwys cyfarfod a siarad gyda chydweithwyr newydd, gwylio gweithgareddau a gofyn cwestiynau.
- Mae'r broses sefydlu hefyd yn gyfle i edrych ar unrhyw anghenion hyfforddiant sydd gen ti
- Os oes criw o gyflogwyr newydd yn cael eu recriwtio ar yr un pryd, mae'n bosib byddant yn mynychu sesiynau sefydlu gyda'i gilydd yn edrych ar y pynciau sy'n gyffredin – gall hyn gynnwys trafodaethau, fideos a chyflwyniadau sleidiau
- Efallai byddi di'n cael gwybodaeth benodol yn ysgrifenedig fel llawlyfr cwmni, yn trafod agweddau pwysig ar drefniadaeth y cwmni a sut mae'n gweithio
Pwy sy'n gyfrifol am y broses sefydlu?
Efallai bod nifer o bobl yn rhan o gynllunio a throsglwyddo'r rhaglen sefydlu.
Mewn cwmni bach efallai mai'r swyddog personél, y rheolwr neu'r goruchwyliwr sy'n gyfrifol.
Mae llawer o gwmnïoedd yn defnyddio sustem 'gyfeillio' hefyd, pan fydd gweithiwr profiadol yn gyfrifol am gynorthwyo'r gweithiwr newydd gyda'r holl gwestiynau all godi o ddydd i ddydd fel cyfleusterau'r ffreutur, cyflwyno cydweithwyr eraill, esbonio cynllun yr adeilad ac ati. Bydda'n nhw'n gwneud hyn mewn ffordd anffurfiol wrth iddynt godi.
Efallai bydd sefydliad mwy yn galw ar alluoedd a sgiliau llawer o bobl. Gallai'r rhain gynnwys:
- Y rheolwr personél neu'r rheolwr adnoddau dynol. Mae'n debygol y bydda nhw'n mynd trwy'r amodau a thelerau, yn cwblhau unrhyw waith papur angenrheidiol ac efallai yn rhoi trosolwg o drefniadaeth y cwmni
- Y swyddog iechyd a diogelwch, yn enwedig os oes angen gweithdrefnau diogelwch penodol neu ddillad gwarchodol ac ati. Bydd y person yma yn cynorthwyo'r cyflogwr i roi darpariaeth deddf iechyd a diogelwch ar waith
- Y swyddog hyfforddi fydd yn amlinellu unrhyw raglenni hyfforddi sydd eisoes ar waith
- Y rheolwr llinell neu adran. Fel arfer, bydd y person yma'n cynnig croeso mwy lleol i'r sefydliad, yn esbonio sut mae'r adran benodol honno yn rhan o'r sefydliad yn ei gyfanrwydd, ac yn cynnal y rownd gyntaf o gyflwyniadau i'r adran
- Y goruchwyliwr, a fydd â'r diddordeb a'r cyfrifioldeb pennaf am wneud i'r gweithiwr newydd deimlo'n gartrefol a sicrhau ei fod yn effeithiol cyn gynted â phosib. Fel rheol, y goruchwyliwr sy'n gyfrifol am weld beth sydd wedi'i drafod, beth sydd angen ei wneud, ac unrhyw bwyntiau penodol sydd angen eu hegluro ymhellach
- Y cynrychiolydd undeb llafur neu gynrychiolydd y gweithwyr, a chynrychiolydd diogelwch, i egluro eu rôl